
2005 Rhif 1814 (Cy.144) (C.75)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 5 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4)(a), (5)(c), (5)(f) a (7) o Ddeddf Tai 2004, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Tai 2004; ac
 ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 14 Gorffennaf 2005.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
2 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn —
(a) adran 191;
(b) adran 227;
(c) adran 228;
(ch) adran 265(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 a bennir ym mharagraff (dd) isod;
(d) Atodlen 12; ac
(dd) yn Atodlen 15 —
(i) paragraff 1;
(ii) paragraff 7(1), (2), (3)(a), (3)(c), (4)(a) a 5;
(iii) paragraff 35;
(iv) paragraff 37(1), (2)(a), (2)(b) a (3);
(v) paragraff 45(1), (2)(b), (2)(c), (2)(d) a (3); a
(vi) paragraff 46
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005