
2005 Rhif 1813 (Cy.143)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2005
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118(1)(b) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4, ym mharagraff (1)(a) yn lle'r gair “bedwerydd” rhowch y gair “drydydd”, ac yn lle'r gair “bedair” yn y paragraff hwnnw ac ym mharagraff (1)(b) rhowch y gair “dair”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005