
2005 Rhif 181 (Cy.14)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 1 Chwefror 2005
Yn dod i rym 2 Chwefror 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 24 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 2 Chwefror 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993.
Diwygiadau i Reoliadau 1993
3 

(1) Diwygir Rheoliadau 1993 yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle'r diffiniad o “list” rhodder —“
 “list” means, other than in regulation 5(1A), (3) and (3A), a valuation list compiled under section 22, section 22A or section 22B of the Act;”.
(3) Yn rheoliad 5 —
(a) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(1A) No proposal may be made later than 31 December 2005 in relation to a list compiled under section 22 or section 22A of the Act other than in respect of paragraphs (2) and (6) and regulation 8(3)(a) and (9).”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) ar ôl y geiriau “a list” mewnosoder “compiled under section 22 or 22A of the Act”;
(ii) yn lle “the list” rhodder “that list”; ac
(c) ar ôl paragraff (3), mewnosoder —“
(3A) Subject to paragraph (4) and regulation 8(3)(a), where, in relation to a dwelling shown in a list compiled under section 22B of the Act on the day on which it is compiled, a billing authority or an interested person is of the opinion mentioned in paragraph (1) by reason of the matter mentioned in sub-paragraph (c), any proposal for the alteration of that list as regards that matter must be made not later than 30 September 2006.”.
(4) Yn rheoliad 15(1), yn lle “section 22(8) or section 22A(10)”, rhodder “section 22(8), section 22A(10) or section 22B(10)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Chwefror 2005