
2005 Rhif 1809 (Cy.140)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2005
Yn dod i rym 15 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(2) (fel y'i cymhwysir gan adran 121(2)), 118B(9) a (10) a 119B(12) a (13) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“y Ddeddf”) a pharagraffau 1(1) a (3)(b)(iv), 3(1), (2) a (3)(b), 4(1) a 6 o Atodlen 6 iddi, sef pwerau sydd bob un yn awr yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “Awdurdod” yw'r awdurdod priffyrdd perthnasol;
 ystyr “gorchymyn” yw—
(a) gorchymyn dileu arbennig;
(b) gorchymyn gwyro arbennig; neu
(c) gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn o fath a bennir yn (a) neu (b); acmae cyfeiriad at ffurf neu hysbysiad a ragnodir gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfeiriad at y ffurf honno neu'r hysbysiad hwnnw yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu yn y ddwy iaith) ac at ffurf neu hysbysiad sy'n sylweddol yr un fath â'r rhai a ragnodir o ran ei heffaith neu ei effaith.
Ffurfiau gorchymyn
3 

(1) Os ymddengys i Awdurdod ei bod yn ofynnol i briffordd berthnasol sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol —
(a) gael ei chau at ddiben a bennir yn adran 118B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn dileu arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;
(b) gael ei gwyro at ddiben a bennir yn adran 119B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn gwyro arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r map y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn gorchymyn fod ar raddfa nad yw'n llai nag 1/2,500 neu, os nad oes map o'r fath ar gael, fod ar y raddfa fwyaf sydd ar gael.
(3) Yn achos gorchymyn dileu arbennig, rhaid i'r map y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ddangos unrhyw lwybr amgen sy'n rhesymol gyfleus.
Hysbysiadau
4 

(1) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 1 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â chadarnhau gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 2 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 3 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 1(3)(b)(iv) neu 4(1)(a) o Atodlen 6 i'r Ddeddf gael ei gyflwyno, yn ychwanegol, i'r personau a ragnodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
Gweithdrefn gorchmynion
5 

(1) Rhaid bod dau gopi ar gael o orchymyn.
(2) Os cyflwynir gorchymyn i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gadarnhau, rhaid i'r gorchymyn a'r ail gopi gael eu hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â—
(a) dau gopi arall o'r gorchymyn;
(b) copi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf;
(c) unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sy'n ymwneud â'r gorchymyn, a wnaed yn briodol ac na chawsant eu tynnu'n ôl;
(ch) unrhyw sylwadau sydd gan yr Awdurdod ar y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau hynny; a
(d) datganiad yn nodi ar ba seiliau, ym marn yr Awdurdod, y dylid cadarnhau'r gorchymyn.
(3) Caniateir cynnal unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn dileu arbennig ar yr un pryd ag unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn creu llwybr cyhoeddus, gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus, gorchymyn gwyro croesfan reilffordd neu orchymyn gwyro arbennig.
(4) Ar ôl i benderfyniad i beidio â chadarnhau gorchymyn gael ei wneud, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(6) Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau, rhaid i'r Awdurdod anfon copi o'r gorchymyn, fel y'i cadarnhawyd, at yr Arolwg Ordnans.
Hawliadau am ddigollediad mewn cysylltiad â gorchmynion
6 

(1) Rhaid i hawliad a wneir yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf (digollediad am golled a achosir gan orchymyn creu llwybr cyhoeddus), fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf, a hynny o ganlyniad i weithredu gorchymyn, gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gael ei gyflwyno i'r Awdurdod neu, yn achos gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei gyflwyno i'r Awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol, fel a ddarperir gan adran 28(3) o'r Ddeddf, a hynny drwy ei ddanfon i swyddfeydd yr Awdurdod neu'r awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol (yn ôl y digwydd), wedi'i gyfeirio at Brif Weithredwr yr awdurdod, neu drwy ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post wedi'i gyfeirio felly.
(2) Rhaid i hawliad a wneir o dan baragraff (1) gael ei gyflwyno fel ei fod yn dod i law heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth y gorchymyn y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad ag ef i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)(a)

FFURF
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 118B
GORCHYMYN DILEU ARBENNIG AR GYFER PRIFFYRDD PENODOL SY'N CROESI TIR SY'N CAEL EI FEDDIANNU AT DDIBENION YSGOL
ATODLEN 2
Rheoliad 3(1)(b)

FFURF
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 119B
GORCHYMYN GWYRO ARBENNIG AR GYFER PRIFFYRDD PENODOL SY'N CROESI TIR SY'N CAEL EI FEDDIANNU AT DDIBENION YSGOL
ATODLEN 3
Rheoliad 4(1) i (3)

FFURF 1
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN [118B] [119B] AC ATODLEN 6
HYSBYSIAD YNGHYLCH GWNEUD GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG
FFURF 2
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN [118B] [119B] AC ATODLEN 6
HYSBYSIAD O GADARNHAU GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG
FFURF 3
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 120(3) AC ATODLEN 6
HYSBYSIAD YNGHYLCH GWNEUD GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG GAN GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
ATODLEN 4
PERSONAU YCHWANEGOL Y MAE HYSBYSIAD O ORCHMYNION I'W GYFLWYNO IDDYNT
Rheoliad 4(4)


 ACU Motorcycling GB
 Yr awdurdod sy'n cyflawni swyddogaethau awdurdod tân o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r Gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli
 British Horse Society
 Byways and Bridleways Trust
 Cyclists Touring Club
 Open Spaces Society
 Cymdeithas y Cerddwyr
 Cynghorau tref a chynghorau cymuned ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli
