
2005 Rhif 1721 (Cy.133)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 28 Mehefin 2005
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 85 a 104(1) a (3) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn:
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod priffyrdd, pontydd neu drafnidiaeth;
 ystyr “y Cod” (“the Code”) yw'r Cod Ymarfer o dan y teitl “Measures Necessary where Appparatus is affected by Major Works (Diversionary Works)” dyddiedig Mehefin 1992, ac a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 30 Mehefin 1992, fel y mae'n cael ei ddiwygio a'i ailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
 ystyr “gweithfeydd adran 86(3) (a) i (g)” (“section 86(3) (a) to (g) works”) yw gweithfeydd trafnidiaeth pwysig sydd neu a fyddai, pe baent yn cael eu gwneud gan awdurdod priffyrdd, yn weithfeydd priffyrdd pwysig a ddisgrifir yn unrhyw rai o baragraffau (a) i (g) o adran 86(3) o'r Ddeddf.
 ystyr “gweithfeydd gwyro” (“diversionary works”) yw mesurau y mae angen eu cymryd mewn perthynas â chyfarpar ymgymerwr mewn stryd o ganlyniad i weithfeydd pwysig neu er mwyn hwyluso eu gwneud;
 ystyr “gweithfeydd pwysig” (“major works”) yw gweithfeydd priffyrdd pwysig, gweithfeydd pontydd pwysig neu weithfeydd trafnidiaeth pwysig.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr “costau a ganiateir” (“allowable costs”) yw, mewn perthynas â gweithfeydd gwyro, swm yr holl gostau rhesymol a dynnir wrth eu gwneud, ac eithrio —
(a) costau yr eir iddynt wrth baratoi'r set gyntaf o gynlluniau ac amcangyfrifon mewn perthynas â'r gweithfeydd gwyro hynny (ond nid wrth baratoi unrhyw gynlluniau ac amcangyfrifon y gallai fod ar yr awdurdod eu hangen);
(b) costau na chaniateir mohonynt o dan reoliad 6(3).
Gweithfeydd gwyro a wneir gan ymgymerwr oherwydd gweithfeydd pwysig awdurdod
3 

(1) Lle mae ymgymerwr yn gwneud gweithfeydd gwyro, oherwydd gweithfeydd pwysig a gychwynnir gan awdurdod, rhaid i'r awdurdod dalu i'r ymgymerwr —
(a) lle mae'r gweithfeydd pwysig yn weithfeydd trafnidiaeth (heblaw gweithfeydd pontydd pwysig neu weithfeydd adran 86(3) (a) i (g)) a lle rhoddir taliad yn unol â rheoliad 8(1), swm sy'n gyfartal i 92.5 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro;
(b) mewn achosion eraill lle rhoddir taliad yn unol â rheoliad 8(1), swm sy'n gyfartal i 82 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro;
(c) ym mhob achos arall, costau a ganiateir y gweithfeydd gwyro.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 6.
Gweithfeydd gwyro a wneir gan awdurdod oherwydd gweithfeydd pwysig yr awdurdod
4 

(1) Lle mae'r awdurdod yn gwneud gweithfeydd gwyro, oherwydd gweithfeydd pwysig a gychwynnir gan awdurdod, rhaid i'r ymgymerwr, yn ddarostyngedig i baragraff (2), dalu i'r awdurdod —
(a) lle mae'r gweithfeydd pwysig yn weithfeydd trafnidiaeth pwysig heblaw'r rhai —
(i) sydd hefyd yn weithfeydd pontydd pwysig, neu
(ii) sy'n weithfeydd adran 86(3) (a) i (g),
swm sy'n gyfartal i 7.5 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro;
(b) ym mhob achos arall, swm sy'n gyfartal i 18 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro.
(2) Lle y symudir cyfarpar ymgymerwr gan yr awdurdod ar gais yr ymgymerwr a hynny yn unig oherwydd newid yn y math o adeiladu ar gyfer priffyrdd, nad yw'n golygu newid yn nyfnder y gorchudd i ddyfnder sy'n llai neu'n fwy na'r dyfnder derbyniol a grybwyllir yn Atodiad B i'r Cod, rhaid i'r ymgymerwr dalu i'r awdurdod y costau a ganiateir a dynnir gan yr awdurdod wrth symud y cyfarpar.
(3) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 6.
Gweithfeydd gwyro a wneir gan awdurdod neu gan ymgymerwr mewn achosion eraill
5 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle cychwynnir gweithfeydd pwysig —
(a) gan awdurdod ar ran person arall neu gan awdurdod heblaw yn rhinwedd ei swydd fel y cyfryw; neu
(b) gan ymgymerwr at ddibenion unrhyw berson o'r fath,
a lle gwneir gweithfeydd gwyro gan awdurdod neu gan yr ymgymerwr.
(2) Lle mae'r awdurdod yn gwneud y gweithfeydd gwyro, rhaid i'r ymgymerwr dalu i'r awdurdod y swm y byddai'n rhaid iddo fod wedi'i dalu o dan reoliad 4 pe bai'r gweithfeydd pwysig wedi'u cychwyn gan yr awdurdod.
(3) Lle mae'r ymgymerwr yn gwneud y gweithfeydd gwyro, rhaid i'r awdurdod dalu i'r ymgymerwr y swm y byddai'n rhaid iddo fod wedi'i dalu o dan reoliad 3 pe bai'r gweithfeydd pwysig wedi'u cychwyn gan yr awdurdod.
(4) Wrth gyfrifo'r costau a ganiateir at ddibenion rheoliadau 3 a 4 fel y'u cymhwysir gan y rheoliad hwn rhaid cymryd y canlynol i ystyriaeth o blaid yr ymgymerwr —
(a) unrhyw swm y gellir ei adennill oddi wrth unrhyw berson y gwneir y gweithfeydd gwyro at ei ddibenion, ni waeth a yw swm o'r fath yn cael ei adennill oddi wrth y person hwnnw neu beidio;
(b) unrhyw swm y byddai modd ei adennill oddi wrth berson o'r fath pe na bai'r person hwnnw yn awdurdod.
Costau a ganiateir — darpariaethau pellach
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), lle mae'r gweithfeydd pwysig yn weithfeydd pontydd pwysig neu'n cynnwys gweithfeydd pontydd pwysig, rhaid i'r costau a ganiateir gael eu cyfrifo fel nad yw'r ymgymerwr yn atebol am gostau mewn perthynas â darparu —
(a) lle digonol yn strwythur y bont; neu
(b) gryfder digonol yn y bont,
er mwyn gwneud lle am gyfarpar yr ymgymerwr yn y bont.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i gostau —
(a) unrhyw ddwythellau, cilfachau peipiau, crogfachau neu ddarpariaeth arall ar gyfer cartrefu neu gynnal cyfarpar yr ymgymerwr o fewn strwythur y bont;
(b) darparu lle digonol neu gryfder digonol i wneud lle am gyfarpar a osodir yn y bont ar ôl gwneud gweithfeydd pwysig o'r fath heblaw gosod, disodli neu addasu (heb gynnwys ehangu) cyfarpar a osodid gynt yn y bont cyn i'r gweithfeydd hynny gael eu gwneud.
(3) Wrth gyfrifo costau ymgymerwr a ganiateir rhaid bod costau na chaniateir mohonynt mewn perthynas â chyfarpar a osodir yn y stryd ar ôl i'r awdurdod roi i'r ymgymerwr —
(a) yn achos gweithfeydd pwysig sef gweithfeydd pontydd pwysig sy'n cynnwys gosod pont newydd yn lle'r hen bont, hysbysiad o ddim mwy na 10 mlynedd,
(b) yn achos unrhyw weithfeydd pwysig eraill, hysbysiad o ddim mwy na 5 mlynedd,
am eu bwriad i wneud y gweithfeydd pwysig.
Gwelliant etc.
7 

(1) Mewn achos lle mae ymgymerwr yn atebol, o dan y Rheoliadau hyn, i wneud taliad i awdurdod neu lle mae awdurdod yn atebol i wneud taliad i ymgymerwr mewn perthynas â gweithfeydd gwyro rhaid cymryd y canlynol i ystyriaeth o blaid yr awdurdod —
(a) os bydd y mesurau hynny yn arwain at welliant yng nghyfarpar yr ymgymerwr, swm sy'n gyfartal i'r budd y mae'r ymgymerwr yn ei gael o ganlyniad i'r gwelliant, wedi'i gyfrifo yn unol ag Atodiad F i'r Cod;
(b) os bydd y mesurau hynny'n arwain at ohirio'r angen i adnewyddu cyfarpar yr ymgymerwr, swm a benderfynir yn unol ag Atodiad E i'r Cod.
(2) At ddibenion y rheoliad rhaid penderfynu ar “gwelliant” yn unol ag Atodiad F i'r Cod.
Talu
8 

(1) At ddibenion rheoliad 3(1)(a) a (b) (gan gynnwys y darpariaethau hynny fel y'u cymhwysir gan reoliad 5) caiff yr awdurdod dalu i'r ymgymerwr swm sy'n gyfartal i 75 y cant o'r amcangyfrif o 82 y cant neu 92.5 y cant (fel y bo'n briodol) o'r costau a ganiateir —
(a) mewn un cyfandaliad cyn i'r gweithfeydd gwyro ddechrau; neu
(b) os bydd yr awdurdod a'r ymgymerwr yn cytuno yn achos gweithfeydd gwyro a fydd yn para, yn ôl yr amcangyfrif, am fwy na thri mis, fesul rhandaliadau o symiau o'r fath, ar y cyfryw adegau yn ystod gwneud y gweithfeydd gwyro, fel y mae'r awdurdod a'r ymgymerwr yn cytuno arno.
(2) Cyn pen 90 diwrnod ar ôl i'r gweithfeydd gwyro gael eu cwblhau, rhaid i'r person y mae unrhyw swm o ran costau a ganiateir yn ddyledus iddo (y credydwr) roi i'r person y mae'r swm yn ddyledus oddi wrtho (y dyledwr) cyfrif o'r swm sy'n ddyledus a chyn pen 35 diwrnod ar ôl i'r cyfrif hwnnw gael ei roi —
(a) rhaid i ddyledwr sy'n awdurdod sydd wedi talu cyfandaliad neu randaliadau yn unol â pharagraff (1) dalu i'r ymgymerwr unrhyw swm sy'n weddill o'r amcangyfrif, ynghyd ag unrhyw swm pellach sy'n gyfartal i swm lle y mae'r gyfran o'r costau a ganiateir y mae gan yr ymgymerwr hawl i'w gael yn uwch na'r amcangyfrif;
(b) rhaid i'r dyledwr mewn unrhyw achos arall dalu i'r credydwr y swm sy'n ddyledus.
(3) Os bydd taliadau a wneir gan awdurdod o dan baragraff (1) yn uwch na'r gyfran berthnasol o'r costau a ganiateir a bennir yn rheoliad 3(1)(a) neu (b), rhaid i'r ymgymerwr, cyn pen 35 diwrnod ar ôl rhoi'r cyfrif a grybwyllir ym mharagraff (2), ad-dalu i'r awdurdod swm y tâl dros ben.
Eithriadau
9 
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithfeydd a wneir yn unol â —
(a) trwydded o dan adran 50 o'r Ddeddf;
(b) caniatâd o dan adran 61 o'r Ddeddf;
(c) cytundeb i gartrefu cyfarpar mewn strwythur pont; neu
(ch) cyfarwyddyd i symud neu newid lle'r cyfarpar, yn unol ag adran 62 o'r Ddeddf.
Dirymu a darpariaeth drosiannol
10 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) 1992 (“Rheoliadau 1992”) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys lle mae'r hysbysiad ffurfiol o fwriad i fwrw ymlaen â gweithfeydd mawr yn unol â pharagraff 5 o Atodiad C i'r Cod yn cael ei gyflwyno ar y dyddiad y deuant i rym neu ar ôl hynny; ac mae Rheoliadau 1992 yn parhau'n gymwys lle mae hysbysiad ffurfiol o'r fath wedi cael ei gyflwyno cyn y dyddiad hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2005