
2005 Rhif 1717 (Cy.132)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
CADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 28 Mehefin 2005
Yn dod i rym 29 Mehefin 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 3, 5, 15(3) a 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, ac a freiniwyd ynddo bellach, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 29 Mehefin 2005.
(3) Yn y Gorchymyn hwn mae gan “Cymru” yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, ac mae “dyfroedd Cymru” yn golygu yr ardaloedd morwrol sydd o fewn Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “bar tynnu” (“tow bar”) yw unrhyw ddyfais neu offeryn y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gosod neu ddodi llusgrwyd cregyn bylchog yn sownd i gwch er mwyn galluogi i'r fath lusgrwyd gael ei thynnu gan y cwch.
 ystyr “cregyn bylchog” (“scallop”) yw'r rhywogaeth Pecten maximus;
 ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu sydd dan berchenogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;
 ystyr “gorchymyn cyfatebol” (“equivalent order”) yw unrhyw orchymyn arall a wneir o dan adrannau 1, 3, 5 neu 15 o'r Ddeddf, ac sy'n creu gwaharddiadau tebyg i unrhyw rai o'r rheini sydd yn erthyglau 3, 4, 5, 6 a 7 o'r Gorchymyn hwn ac sy'n rhychwantu unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig neu sy'n gymwys i unrhyw ran;
 ystyr “gwaelodlinau” (“baselines”) yw'r ystyr a roddir i “baselines” yn Neddf Môr Tiriogaethol 1987;
 ystyr “llusgrwyd cregyn bylchog” (“scallop dredge”) yw unrhyw gyfarpar ac iddo ffrâm anhyblyg yn enau, a lusgir drwy'r dŵr ac a gaiff ei weithgynhyrchu, ei addasu, a'i ddefnyddio neu y bwriedir ei ddefnyddio at bwrpas pysgota am gregyn bylchog.
Cyfyngu ar y nifer o lusgrwydi cregyn bylchog
3 

(1) Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig, ar unrhyw adeg, dynnu mwy na 43 llusgrwyd cregyn bylchog ar y naill ochr a'r llall o'r cwch mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sy'n gorwedd o fewn 3 milltir fôr o'r lan, ac fe fesurir y pellter yma o'r gwaelodlinau.
(2) Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig, ar unrhyw adeg, dynnu mwy nag 8 llusgrwyd cregyn bylchog y naill ochr a'r llall o'r cwch mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sy'n gorwedd mwy na 3 milltir fôr o'r lan, ac fe fesurir y pellter yma o'r gwaelodlinau.
Cyfyngiad ar faint barau tynnu
4 

(1) Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sydd yn gorwedd o fewn 3 milltir fôr o'r lan, (y pellter yma i gael ei fesur o'r gwaelodlinau), gario neu ddefnyddio bar tynnu oni bai fod y bar tynnu yn cydymffurfio ag anghenion paragraff (2);
(2) Yr anghenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw'r rhain;
(a) ni chaiff bar tynnu fod yn fwy na 3.8 metr o hyd, a
(b) ble mae bar tynnu yn 3.8 metr neu lai o hyd, ni ddylsai fod wedi ei wneuthur yn y fath fodd fel y gall gael ei osod i fwy na 4 llusgrwyd cregyn bylchog ar yr un pryd.
(3) Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, yn unrhyw ddarn o ddyfroedd Cymru sydd yn gorwedd mwy na 3 milltir fôr o'r lan, (y pellter yma i gael ei fesur o'r gwaelodlinau), gario neu ddefnyddio bar tynnu onibai fod y bar tynnu hwnnw yn cydymffurfio ag anghenion pharagraff (4);
(4) Yr anghenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw'r rhain:
(a) ni chaiff bar tynnu fod yn fwy na 7.6 metr o ran hyd, a
(b) ble mae'r bar tynnu yn 7.6 metr neu lai o ran hyd, ni ddylsai fod wedi ei wneuthur yn y fath fodd fel y gall gael ei osod i fwy nag 8 llusgrwyd cregyn bylchog ar yr un pryd.
Manyleb llusgrwydi cregyn bylchog
5 

(1) Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig gario na thynnu llusgrwyd cregyn bylchog o fewn dyfroedd Cymru onibai mewn perthynas â'r fath lusgrwydo —
(a) bod pob rhan o'i ffrâm yn llai na neu yn gyfartal â 85 centimetr o led;
(b) ei bod yn cynnwys bar danheddog sbringlwythog sy'n ateb y diben, yn weithredol ac yn symudol;
(c) nad yw'r llusgrwyd yn cynnwys unrhyw atodiadau ar ei chefn, ar ei thop neu y tu mewn iddi;
(ch) nad yw'r llusgrwyd yn cynnwys plât plymio neu unrhyw ddyfais debyg arall; a
(d) nad yw cyfanswm pwysau'r llusgrwyd yn cynnwys yr holl ffitiadau heb fod yn fwy na 150 cilogram.
(2) Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig gario neu dynnu llusgrwyd cregyn bylchog o fewn dyfroedd Cymru —
(a) os yw'r llusgrwyd yn 80 centimetr o led neu fwy —
(i) onid yw'r nifer o resi o fodrwyau bol sy'n hongian o'r bar bol heb fod yn fwy nag 8 ar draws;
(ii) os yw'r dannedd i gyd yn mesur 12 milimetr neu lai, onid yw'r nifer o ddannedd ar y bar danheddog heb fod yn fwy na 9;
(iii) os oes unrhyw un o'r dannedd yn mesur mwy na 12 milimetr, onid yw'r nifer o ddannedd ar y bar danheddog heb fod yn fwy nag 8;
(b) os yw'r llusgrwyd yn llai nag 80 centimetr o led —
(i) onid yw'r nifer o resi o fodrwyau bol sy'n hongian o'r bar bol heb fod yn fwy na 6; a
(ii) onid yw'r nifer o ddannedd ar y bar danheddog heb fod yn fwy na 6;
(c) onid oes ganddo ddim mwy nag 1 rhes o fodrwyau bol yn hongian o'r naill ochr a'r llall o'r llusgrwyd yn unionsyth at y modrwyau sy'n hongian o'r bar bol; ac
(ch) onid yw pob dant ar y bar danheddog heb fod yn fwy na —
(i) 22 milimetr lle y mae'r llusgrwyd yn 80 centimetr o led neu fwy; neu
(ii) 12 milimetr lle y mae'r llusgrwyd yn llai na 80 centimetr o led.
(3) Yn yr erthygl hon —
(a) llinell o fodrwyau unigol sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd yw rhes o fodrwyau bol, lle y mae'r fodrwy ar un pen i'r llinell yn hongian naill ai o'r bar bol neu o brif strwythur y llusgrwyd yn unionsyth i'r bar bol;
(b) bar bol yw'r bar sydd wedi'i gysylltu â ffrâm y llusgrwyd sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r bar danheddog ac y mae'r modrwyau bol yn hongian wrtho;
(c) bar danheddog yw'r bar ac arno ddannedd sydd â'u pennau'n pwyntio i lawr ac y bwriedir iddynt gyffwrdd â gwely'r môr pan yw'r llusgrwyd yn weithredol;
(ch) maint dant yw mwyafswm ei led wedi'i fesur yng nghyfeiriad llinell y bar danheddog.
(4) Nid yw modrwyau bol a'r teclynnau sy'n eu cysylltu â'i gilydd ac â'r ffrâm i'w hystyried fel atodiadau at ddibenion paragraff (1)(c).
Cyfyngiadau pysgota
6 

(1) At ddibenion adran 1(3) o'r Ddeddf, isafswm maint cragen fylchog y gellir ei chario gan gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru yw 110mm.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff unrhyw berson bysgota, cymryd neu ladd cregyn bylchog yn Nyfroedd Cymru yn ystod y cyfnod 1 Mehefin i 31 Hydref gan gynnwys y dyddiadau hynny, ym mhob blwyddyn, drwy unrhyw gyfrwng gan gynnwys plymio.
(3) Mewn perthynas â'r flwyddyn galendr 2005, mae'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 2 i gychwyn ar 30 Mehefin.
Mesur cregyn bylchog
7 
At ddibenion erthygl 6, mae maint cragen fylchog i'w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd trwy gyfrwng camau technegol er mwyn diogelu organebau morol bychan, a hynny fel y'i newidiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 602/2004 dyddiedig 22 Mawrth 2004.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig
8 

(1) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru.
(2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.
(3) Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol fel y'i darllenir gyda'r Ddeddf ac, yn arbennig —
(i) caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad; ac
(ii) caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sydd yng ngwarchodaeth neu ym meddiant y person hwnnw, ac sy'n ymwneud â'r cwch, â'i weithrediadau pysgota neu â gweithrediadau eraill sy'n ategol i hynny, neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(iii) at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan y Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd ei angen, yn nhyb y swyddog, i hwyluso'r archwiliad;
(iv) os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad â'r cwch, yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath, a gyflwynir neu a ddarganfyddir ar y cwch, at ddibenion galluogi'r ddogfen i gael ei defnyddio'n dystiolaeth mewn achos sy'n ymwneud â'r tramgwydd;
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3)(iv) yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
(5) Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog —
(a) mynnu bod meistr y cwch yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd, sef y porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; ac
(b) cadw'r cwch yn y porthladd, neu fynnu bod y meistr yn ei gadw yno;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu yn ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei gadw, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Dirymu
9 
Caiff Gorchymyn Cregyn Bylchog Rhy Fach Eu Maint (yr Arfordir Gorllewinol) 1984, Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) 1984, a Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) (Amrywio) 1986 eu dirymu cyn belled â'u bod yn gymwys o ran Cymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2005