
2005 Rhif 1648 (Cy.129)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'i wneud 21 Mehefin 2005
Yn dod i rym 30 Mehefin 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005 ac fe ddaw i rym ar 30 Mehefin 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004
2 
Ychwaneger at y rhestr o gyrff yn Adran 1, Rhan I o'r Atodlen i Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004 y cyrff canlynol (yn eu lle priodol yn ôl trefn yr wyddor), sef cyrff sy'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn dod o dan adran 216(3) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988:
(1) Kensington College of Business;
(2) London City College;
(3) School of Technology and Management.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2005