
2005 Rhif 1630 (Cy.124)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 14 Mehefin 2005
Yn dod i rym 24 Mehefin 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 38, 78(1), 83A and 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2005.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997; ac
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986.
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
2 
Yn rheoliad 13(2)(l)(ii) o Reoliadau 1986 (profion llygaid — cymhwyster) yn lle “£14,600” rhodder “£15,050”.
Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997
3 
Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a) yn lle “£49.19” rhodder “£50.77”; a
(b) yn lle “£17.82” rhodder “£18.39”.
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
4 
Yn rheoliad 8(3)(l)(ii) o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol) yn lle “£14,600” rhodder “£15,050”.
Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
5 
Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) —
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£46.80” rhodder “£48.00”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£12.10” rhodder “£12.40”.
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
6 

(1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod.

(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£32.10 £32.90
£48.80 £50.00
£71.30 £73.10
£161.00 £165.00
£55.40 £56.80
£70.40 £72.20
£91.30 £93.60
£177.00 £181.40
£164.90 £169.00
£46.80 £48.00
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig, a theclynnau cymhleth) —
(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£10.40” rhodder “£10.70”;
(b) ym mharagraff 1(1)(b) yn lle “£12.50” rhodder “£12.80”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.50” rhodder “£3.60”;
(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.00” rhodder “£4.10”;
(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£52.80”, “£46.80” a “£25.40” rhodder “£54.10”, “£48.00” a “£26.00” yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£52.80” rhodder “£54.10”;
(e) ym mharagraff 2(a), yn lle “£12.10” rhodder “£12.40”; ac
(f) ym mharagraff 2(b), yn lle “£30.50” rhodder “£31.30”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Cymhwyso'r Rheoliadau hyn
7 
Nid yw'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 5 a 6 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 24 Mehefin 2005.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2005
YR ATODLEN
ATODLEN 3 I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN
Rheoliad 6(3)
“
SCHEDULE 3
VOUCHER VALUES-REPAIR
Regulation 19(2) and (3)


(1) (2) 
Nature of Repair  Letter of Codes-Values
 A B C D E F G H I
Repair or replacement of one lens £10.25 £18.80 £30.35 £76.30 £22.20 £29.90 £40.60 £84.50 £78.30
Repair or replacement of two lens £20.50 £37.60 £60.70 £152.60 £44.40 £59.80 £81.20 £169.00 £156.60
Repair or replacement of:         
The front of a frame £10.50 £10.50 £10.50 £10.50 £10.50 £10.50 £10.50 £10.50 £10.50
A side of a frame £6.25 £6.25 £6.25 £6.25 £6.25 £6.25 £6.25 £6.25 £6.25
The whole frame £12.40 £12.40 £12.40 £12.40 £12.40 £12.40 £12.40 £12.40 £12.40”