
2005 Rhif 1629 (Cy.123)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 14 Mehefin 2005
Yn dod i rym 30 Mehefin 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), (17)(1) a (2), 26(1)(a), (2)(e) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freiniwyd ynddo bellach, wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno at gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005 sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005
2 
Diwygier Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005 fel a ganlyn —
 yn y diffiniad o “Reoliad y Comisiwn” ar ôl “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 455/2004” mewnosoder “, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2005