
2005 Rhif 1628 (Cy.122)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 14 Mehefin 2005
Yn dod i rym 24 Mehefin 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo, ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
O ran y Rheoliadau hyn —
(a) eu henw yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005;
(b)  deuant i rym ar 24 Mehefin 2005; ac
(c)  maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) yn y diffiniad o “Directive 95/45/EC”, yn lle'r geiriau “and Directive 2001/50/EC” rhodder y geiriau —“
 Directive 2001/50/EC and Directive 2004/47/EC”.
(3) Yn rheoliad 13 (darpariaeth drosiannol ac esemptiad) ar ôl paragraff (1) mewnosoder y paragraff canlynol —“
(1A) In any proceedings for an offence against these Regulations it is a defence to prove that —
(a) the colour or food which is the subject of the allegation was put on the market or labelled before 1 April 2005; and
(b) the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations as they stood immediately before the coming into force of the Colours in Food (Amendment) (Wales) Regulations 2005.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2005