
2005 Rhif 1511 (Cy.115)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 7 Mehefin 2005
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 112 a 210 o Ddeddf Addysg 2002, ac ar ôl gwneud y trefniadau y mae'n barnu eu bod yn briodol ar gyfer ymgynghori ynglŷn â'r cynigion a hynny yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn —
 mae i “canlyniadau dymunol” yr ystyr a roddir i “desirable outcomes” yn adran 104 o Ddeddf 2002;
 mae “cyfnod allweddol cyntaf” i'w ddehongli yn unol â dehongliad “first key stage” yn adran 103(1) o Ddeddf 2002;
 ystyr “cynllun treialu'r cyfnod sylfaen” (“foundation phase pilot”) yw cynllun treialu sy'n cael ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn profi neu ddatblygu'r meysydd dysgu, y canlyniadau dymunol, y rhaglenni addysgol a'r trefniadau asesu cyn bod adran 102 o Ddeddf 2002 yn cychwyn;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “disgybl cofrestredig (“registered pupil”) yw person sydd wedi'i gofrestru'n ddisgybl yn yr ysgol yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan adran 434 o Ddeddf Addysg 1996;
 mae i “rhaglenni addysgol” yr ystyr a roddir i “educational programmes” yn adran 104 o Ddeddf 2002;
 mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” yn adran 97 o Ddeddf 2002.
Datgymhwyso'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1
4 
Nid yw darpariaethau Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru i fod yn gymwys mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf mewn ysgol a gynhelir pan fo'r disgybl hwnnw yn cymryd rhan yng nghynllun treialu'r cyfnod sylfaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mehefin 2005