
2005 Rhif 1510 (Cy.114)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005
Wedi'u gwneud 7 Mehefin 2005
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 101(1) a (2) a 195(1) a (2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “cyflogai” (“employee”), mewn cysylltiad â darparydd gwasanaeth, yn cynnwys aelod neu ymddiriedolwr;
 ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “darparydd gwasanaeth” (“service provider”) yw person nad yw'n awdurdod lleol ac sy'n darparu, sydd wedi darparu neu sydd wedi cytuno i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act” ) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn rheoliad 2 isod.
Pŵer i ofyn am esboniadau
2 

(1) Yn unol â pharagraff (2) caiff y Cynulliad ofyn i unrhyw berson a ragnodir ym mharagraff (3) i roi iddo, neu i berson a awdurdodir ganddo, esboniad ar unrhyw un o'r canlynol—
(a) unrhyw ddogfennau, cofnodion neu eitemau a arolygwyd, a gopïwyd neu a gynhyrchwyd o dan adrannau 98 i 100 o'r Ddeddf;
(b) unrhyw wybodaeth a ddarparwyd o dan yr adrannau hynny;
(c) unrhyw faterion y mae unrhyw rai o swyddogaethau'r Cynulliad o dan Bennod 6 o Ran 2 o'r Ddeddf yn cael eu harfer mewn cysylltiad â hwy,
mewn achosion lle mae'r Cynulliad yn credu y byddai esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion y Bennod honno.
(2) Rhaid i ofyniad o dan baragraff (1) gael ei roi ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig y mae'n rhaid iddo hefyd—
(a) nodi'r rheswm pam y mae angen yr esboniad;
(b) pennu a yw'r esboniad i'w roi yn bersonol neu'n ysgrifenedig (ac eithrio bod rhaid gofyn i'r esboniad fod yn ysgrifenedig pan fo'r person y gofynnir iddo roi'r esboniad yn gorff o bersonau corfforaethol neu anghorfforedig); ac
(c) pan fo'r esboniad i'w roi yn bersonol, pennu'r amser ar gyfer ei roi a'r man lle mae i'w roi, a rhoi hysbysiad rhesymol o'r amser hwnnw a'r man hwnnw.
(3) Y personau a ragnodir yw—
(a) awdurdod lleol;
(b) aelod neu gyn aelod awdurdod lleol;
(c) maer etholedig neu gyn faer etholedig awdurdod lleol, o fewn yr ystyr a roddwyd iddynt yn adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(ch) swyddog neu gyn swyddog i awdurdod lleol;
(d) darparydd gwasanaeth;
(dd) cyflogai neu gyn gyflogai darparydd gwasanaeth neu unrhyw berson arall sy'n cynorthwyo neu sydd wedi cynorthwyo'r darparydd hwnnw i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru;
(e) person (nad yw'n un a restrwyd mewn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (dd)) sy'n cynorthwyo neu sydd wedi cynorthwyo awdurdod lleol i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mehefin 2005