
2005 Rhif 1396 (Cy.110)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 24 Mai 2005
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002 a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn ddymunol yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1) —
(a) ym mharagraff (b) o'r diffiniad o “to achieve the core subject indicator” yn lle'r geiriau “NC tests” rhodder “teacher assessments”;
(b) yn y diffiniad o “level 5” yn lle'r geiriau “NC tests” rhodder “teacher assessments”; a
(c) hepgorer y diffiniad “NC tests”.
(3) Yn rheoliad 5 —
(a) ym mharagraff (2) yn lle “NC tests” rhodder y geiriau “teacher assessments” ac yn lle “tests are administered” rhodder y geiriau “assessments are carried out”; ac
(b) ym mharagraff (3), ym mhob un o is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn lle “NC tests to be administered” rhodder y geiriau “teacher assessments to be carried out”.
(4) Yn rheoliad 9(3)(b)(i) yn lle “NC tests” rhodder “teacher assessments”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 fel a ganlyn —
(a) yn rheoliad 3(1) hepgorer y diffiniad o “NC tests” a “NC tasks”; ac
(b) yn Atodlen 3 hepgorer paragraff 20(6).
(2) Nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff (1)(b) i'w gymhwyso i wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn ystod blwyddyn cyhoeddi'r ysgol 2005-06 ynglŷn â blwyddyn adrodd yr ysgol 2004-05.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) —
(a) hepgorer y diffiniadau o “asiantaeth farcio allanol” a “profion Cwricwlwm Cenedlaethol” a “thasgau Cwricwlwm Cenedlaethol”; ac
(b) yn y diffiniad o “pynciau perthnasol” hepgorer paragraffau (b) ac (c).
(3) Yn rheoliad 2(4) hepgorer y geiriau “unrhyw gyrhaeddiad gan ddisgybl y penderfynir arno gan brawf Cwricwlwm Cenedlaethol neu dasg Cwricwlwm Cenedlaethol yn ystod blwyddyn ysgol flaenorol neu” a “cyrhaeddiad o'r fath neu” ac yn lle “roi” rhodder “rhoi”.
(4) Hepgorer rheoliad 11.
(5) Yn Atodlen 3 hepgorer paragraffau 4 a 5 a'r penawdau i'r paragraffau hynny.
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) —
(a) hepgorer y diffiniadau o “asiantaeth farcio allanol” a “profion Cwricwlwm Cenedlaethol” a “thasgau Cwricwlwm Cenedlaethol”; a
(b) yn y diffiniad o “pynciau perthnasol” hepgorer paragraffau (b) ac (c).
(3) Yn rheoliad 7 hepgorer paragraffau (10)(b), (11), (12) a (13).
(4) Yn Atodlen 2 —
(a) yn lle paragraff 1(1) rhodder y canlynol —“
(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad disgybl mewn pwnc ym mhob un o'r pynciau perthnasol, a chanlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg neu, pan fydd y disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg.”;
(b) yn lle paragraff 2(1) rhodder y canlynol —“
(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad disgybl mewn pwnc ym mhob un o'r pynciau perthnasol, a chanlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, a pan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg.”; ac
(c) yn lle paragraff 3(1) rhodder y canlynol —“
(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad disgybl mewn pwnc ym mhob un o'r pynciau perthnasol.”.
(5) Yn Atodlen 3—
(a) ym mharagraff 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “mathemateg a gwyddoniaeth,” y geiriau “ac a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg neu, pan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg,”;
(b) ym mharagraff 2(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “pynciau perthnasol” y geiriau “, ac a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, a phan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg,”; ac
(c) ym mharagraff 3 —
(i) yn is-baragraff (2) hepgorer y geiriau “a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol”; ac
(ii) hepgorer is-baragraffau (5) a (6).
(6) Yn Atodlen 4—
(a) ym mharagraff 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “Mathemateg a Gwyddoniaeth,” y geiriau “ac a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg neu, pan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg,”;
(b) yn lle paragraff 2(2) rhodder y canlynol —“
(2) Canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ac o ran yr ail gyfnod allweddol yn unig, canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth a phan fydd y disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg, a ddangoswyd yn ôl penderfyniad asesiad athrawon.”; ac
(c) hepgorer paragraff 2 (5) a (6).
Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004
6 
Hepgorer rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2005