
2005 Rhif 1354 (Cy.102)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 17 Mai 2005
Yn dod i rym 31 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 164(5)(d) a (6)(a) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai yng Nghymru'n unig.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad o warchodaeth
2 
Rhaid i hysbysiad o warchodaeth bennu (Yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (5) o adran 164 (Yswiriant nad yw gydag yswirwyr y landlord) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002) —
(a) cyfeiriad y tŷ sy'n cael ei yswirio o dan y polisi;
(b) swyddfa gofrestredig yr yswiriwr awdurdodedig neu, os nad oes gan yr yswiriwr awdurdodedig swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa;
(c) Rhif y polisi;
(ch) pa mor aml y mae premiymau'n daladwy o dan y polisi;
(d) swm unrhyw dâl ychwanegol sy'n daladwy gan y tenant o dan y polisi;
(dd) os bydd tâl ychwanegol yn daladwy, p'un a yw'n daladwy o ran pob cais a wneir o dan y polisi neu mewn amgylchiadau penodol yn unig ac, yn yr achos olaf hwn, ddisgrifiad byr o'r amgylchiadau hynny;
(e) p'un a yw'r polisi wedi'i adnewyddu ai peidio ac, os cafodd ei adnewyddu, y dyddiad y gwnaed hynny ddiwethaf;
(f) os na chafodd y polisi ei adnewyddu, y dyddiad y daeth yn effeithiol;
(ff) bod y tenant wedi'i fodloni bod y polisi'n gwarchod ei fuddiannau; a
(g) nad oes gan y tenant unrhyw reswm dros gredu nad yw'r polisi'n gwarchod buddiannau'r landlord.
Ffurf ar hysbysiad o warchodaeth
3 
Rhaid i hysbysiad o warchodaeth fod ar y ffurf a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
YR ATODLEN
FFURF AR HYSBYSIAD O WARCHODAETH
Rheoliad 3

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad o Warchodaeth