
2005 Rhif 1352 (Cy.100)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Rheoliadau Hawliau Ailfynediad a Fforffediad (Swm a Chyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 17 Mai 2005
Yn dod i rym 31 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 167(1) a 167(5) a 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hawliau Ailfynediad a Fforffediad (Swm a Chyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anheddau yng Nghymru a feddiennir o dan les hir.
Swm a chyfnod rhagnodedig
2 

(1) £350 yw'r swm rhagnodedig at ddibenion is-adran 1(a) o adran 167 (methu â thalu swm bychan am gyfnod byr) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
(2) Tair blynedd yw'r cyfnod rhagnodedig at ddibenion is-adran (1)(b) o'r adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005