
2005 Rhif 1351 (Cy.99)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 17 Mai 2005
Yn dod i rym 31 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985 sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Corff a bennir
2 
Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon) —
(a) Cheshire Mortgage Corporation Limited (Cwmni Rhif 02613335);
(b) London Scottish Finance Limited (Cwmni Rhif 00233259);
(c) Money Partners Limited (Cwmni Rhif 04992438);
(ch) Money Partners Finance Limited (Cwmni Rhif 05299032).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005