
2005 Rhif 1310 (Cy.92)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 10 Mai 2005
Yn dod i rym 20 Mai 2005
Ac yntau wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau'n ymwneud â bwyd, gan gynnwys cynhyrchu cynradd o ran bwyd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 20 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995
2 

(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle is-baragraff (2)(b) o reoliad 14 (amodau cyffredinol) rhodder yr is-baragraff a ganlyn —“
(b) poultry meat which —
(i) has not been eviscerated or has been obtained from the body of any bird which has not been eviscerated,
(ii) has been treated with an agent used to promote water retention, or has been obtained in technologically similar conditions and is likely as a result to present the same risk; or”.
(3) Yn lle paragraff (9) o reoliad 14 rhodder y paragraff a ganlyn —“
(9) Paragraph 2(b)(i) shall not apply to partially eviscerated poultry (“effilé”).”.
Diwygiad canlyniadol
3 
I'r graddau y mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 yn gymwys o ran Cymru, diwygir paragraff 7 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny (rheoliadau sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned) drwy roi'r cyfeiriadau a ganlyn yn lle'r ymadrodd “The Meat (Hazard Analysis and Critical Control Point) (Wales) Regulations 2002” —“
 S.I. 2002/1476 (W.148);
 The Poultry Meat, Farmed Game Bird Meat and Rabbit Meat (Hygiene and Inspection) (Amendment) (Wales) Regulations 2005;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2005