
2005 Rhif 1269 (Cy.89)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 4 Mai 2005
Yn dod i rym 5 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005. Deuant i rym ar 5 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
2 
Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 yn unol â rheoliadau 3 i 9 o'r Rheoliadau hyn.
3 
Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), ym mharagraff (1) —
(a) dileer y diffiniad o “cais am gymorth arwynebedd” (“area aid application”);
(b) yn y diffiniad o “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” (“claimed forage area”) yn lle'r geiriau “cais am gymorth ardal” rhodder y geiriau “cais sengl”;
(c) mewnosoder y diffiniadau canlynol yn eu lle priodol yn nhrefn yr wyddor —“
 ystyr “Cod Ymarfer Ffermio Da (“Code of Good Farming Practice”) yw'r darpariaethau Ymarfer Ffermio Da a nodir yn adran 9.1 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000 — 2006;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn 796/2004” (“Commission Regulation 796/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar drawsgydymffurfio, modwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar ei chyfer yn Rheoliad y Cyngor 1782/2003;”;
(ch) rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniadau o “Rheoliad y Comisiwn 1750/1999” (“Commission Regulation 1750/1999”) —“
 “ystyr “Rheoliad y Comisiwn 817/2004” (“Commission Regulation 817/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF);”;
(d) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —“
 “ystyr “Rheoliad y Cyngor 1254/1999” (“Council Regulation 1254/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/19991254/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo;”;
(dd) dileer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”);
(e) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —“
 “ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr;”;
(f) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —“
 “ystyr “Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel” (“Hill Livestock Compensatory Allowances”) neu (“HLCA”) yw lwfansau a delir o dan y Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal);”;
(ff) rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o “IACS” —“
 ystyr “IACS” yw System Integredig Gweinyddu a Rheoli a sefydlwyd o dan Bennod 4 o Reoliad y Cyngor 1782/2003;”;
(g) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —“
 mae i “cais sengl” yr ystyr a roddir i “single application” yn erthygl 2(11) o Reoliad y Comisiwn 796/2004;”.
4 
Yn rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys), ym mharagraff (1) —
(1) yn is-baragraff (a), yn lle'r geiriau “cais dilys am gymorth arwynebedd” rhodder y geiriau “cais sengl dilys”;
(2) yn is-baragraff (b) —
(a) o flaen y geiriau “y ceisydd” mewnosoder y geiriau “yn ddarostyngedig i is-baragraff (d) isod,”;
(b) ar ôl y geiriau “wedi cyflwyno cais” mewnosoder y gair “dilys”;
(c) yn lle'r geiriau “mewn perthynas â'r flwyddyn” mewnosoder y geiriau “mewn perthynas â chynllun blwyddyn 2004”;
(ch) dileer y geiriau “y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd”.
(3) Yn is-baragraff (c) ar ôl y geiriau “ffermio cynaliadwy” mewnosoder y geiriau “ac wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Ymarfer Ffermio Da”.
(4) Ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder yr is-baragraff canlynol —“
(d) gofyniad is-baragraff (b) uchod ynghylch cyflwyno cais dilys am gymorth ar gyfer da byw heb fod yn gymwys —
(i) os yw'r ceisydd wedi gwneud cais ac wedi derbyn Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel am y flwyddyn 2000 ac os yw wedi gwneud cais ac wedi derbyn taliad Tir Mynydd ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny; neu
(ii) os nad yw'r ceisydd cyn hynny wedi gwneud cais am daliad Tir Mynydd.”.
5 
Yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ym mharagraff (1) —
(1) ar ôl y geiriau “rhaid bod” mewnosoder y geiriau “wedi bod”;
(2) ar ôl y geiriau “am bob hectar” mewnosoder y geiriau “ar sail nifer y defaid a/neu fuchod sugno a oedd yn denu premiwm o dan y cynllun premiwm blynyddol defaid a/neu'r cynllun Premiwm Buchod Sugno ar gyfer cynllun blwyddyn 2004”.
6 
Yn rheoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol), dileer paragraff (b).
7 
Yn rheoliad 10 (Ceisiadau) —
(1) dileer paragraff (2);
(2) ym mharagraff (3), yn lle'r geiriau “ Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2419/2001 dyddiedig 11 Rhagfyr 2001 sy'n cyflwyno rheolau manwl er mwyn cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai cynlluniau o blith Cynlluniau cymorth y Gymuned a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/1992” rhodder y geiriau “Erthygl 21 o Reoliad y Comisiwn 796/2004”.
8 
Ar ôl rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) mewnosoder y rheoliad canlynol —“
Cymhwyso cosbau
13A. 
Yn unol ag Erthygl 73 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu, a chyhoeddi yn y dull y gwêl yn dda, system o gosbau cymesur a fydd yn gymwys mewn achosion os bydd y ceiswyr yn methu cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.”.
9 
Yn rheoliad 16 (Pwerau personau awdurdodedig) ym mharagraff (3) —
(1) yn is-baragraff (c), dileer y gair “ac”;
(2) yn is-baragraff (ch), yn lle'r marc atalnodi “.” rhodder y marc atalnodi a'r gair “; a”; a
(3) ar ôl is-baragraff (ch), mewnosoder yr is-baragraff canlynol —“
(d) cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da.”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Mai 2005