
2005 Rhif 1229 (Cy.87) (C.56)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 26 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005.
Y diwrnod penodedig
2 
30 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf, ddod i rym —
(a) adran 62 (cynllun datblygu lleol), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 63 (gofynion paratoi), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c) adran 72 (cyd-gynlluniau datblygu lleol); ac
(ch) adran 73 (eithrio rhai sylwadau).
Darpariaethau canlyniadol
3 
Ar y diwrnod a bennwyd gan erthygl 2, daw effaith darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) i ben o ran Cymru —
(a) adran 12 (paratoi cynllun datblygu unedol);
(b) adran 21 (newid neu ddisodli cynllun datblygu unedol); ac
(c) adran 23B (cynlluniau datblygu unedol ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru).
Darpariaethau trosiannol
4 
Mewn perthynas â'r awdurdodau cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn a'u hardaloedd —
(a) ni fydd darpariaethau'r Ddeddf a gaiff eu dwyn i rym yn sgil erthygl 2 yn gymwys; ac
(b) bydd darpariaethau Deddf 1990 y daw eu heffaith i ben o dan erthygl 3 yn parhau mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005
YR ATODLEN
Erthygl 4


 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
 Cyngor Dinas Casnewydd
 Cyngor Dinas a Sir Abertawe
 Cyngor Sir Caerfyrddin
 Cyngor Sir Ceredigion
 Cyngor Sir y Fflint
 Cyngor Sir Gwynedd
 Cyngor Sir Fynwy
 Cyngor Sir Penfro
 Cyngor Sir Powys
 Cyngor Sir Ynys Môn
