
2005 Rhif 1228 (Cy.86)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 26 Ebrill 2005
Yn dod i rym 30 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 143F(3) a (4) o Ddeddf Tai 1996, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai annedd yng Nghymru.
Personau sy'n cael cynnal adolygiadau
2 

(1) Rhaid i adolygiad o dan adran 143F o Ddeddf Tai 1996 o benderfyniad i geisio gorchymyn meddiannu tŷ annedd a osodir o dan denantiaeth isradd (“yr adolygiad”) gael ei gynnal gan berson nad oedd ynghlwm wrth y penderfyniad hwnnw.
(2) Pan fo'r adolygiad yn adolygiad o benderfyniad a wnaethpwyd gan un o swyddogion y landlord ac y mae'r adolygiad i'w gynnal gan swyddog arall, rhaid i'r swyddog sy'n adolygu'r penderfyniad fod mewn swydd uwch o fewn sefydliad y landlord.
Hysbysiad am adolygiad
3 
Rhaid i'r landlord o dan y denantiaeth isradd hybysu'r tenant nid llai na phum niwrnod clir cyn dyddiad yr adolygiad.
Hawl i wrandawiad llafar
4 

(1) Pan fo'r tenant yn gwneud cais am hynny, rhaid i'r adolygiad fod yn wrandawiad llafar.
(2) Rhaid gwneud unrhyw gais o'r fath i'r landlord cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1) i adran 143F o Ddeddf Tai 1996 (yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais am adolygiad).
(3) Os yw'r tenant yn gwneud cais o'r fath, rhaid i'r landlord, pan hysbysa'r tenant am ddyddiad yr adolygiad yn unol â rheoliad 3, roi gwybod hefyd i'r tenant am yr amser a'r lle y gwrandewir yr adolygiad.
Sylwadau ysgrifenedig
5 
P'un a yw'r adolygiad i fod ar ffurf gwrandawiad llafar ai peidio —
(a) caiff y tenant wneud sylwadau ysgrifenedig i'r landlord am yr adolygiad;
(b) rhaid i'r sylwadau hynny ddod i law'r landlord nid llai na dau ddiwrnod clir cyn dyddiad yr adolygiad; ac
(c) rhaid i'r landlord ystyried unrhyw sylwadau a gaiff erbyn y dyddiad hwnnw.
Adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar
6 

(1) Pan fo'r adolygiad i fod drwy gyfrwng gwrandawiad llafar, mae gan y tenant yr hawl i gael ei wrando ac i gael person arall gydag ef neu i gael ei gynrychioli gan berson arall (p'un a yw'r person hwnnw yn berson â chymwysterau proffesiynol ai peidio).
(2) Caiff y tenant neu gynrychiolydd y tenant —
(a) galw personau i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad;
(b) holi unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad.
(3) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae'r weithdrefn sy'n gysylltiedig ag adolygiad drwy gyfrwng gwrandawiad llafar i'w phenderfynu gan y person sy'n cynnal yr adolygiad.
Absenoldeb tenant a chynrychiolydd o wrandawiad
7 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo tenant wedi'i hysbysu yn unol â rheoliadau 3 a 4(3) ac nid yw'r tenant na chynrychiolydd y tenant yn ymddangos yn y gwrandawiad.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff y person sy'n cynnal yr adolygiad, o ystyried yr holl amgylchiadau —
(a) bwrw ymlaen â'r gwrandawiad; neu
(b) rhoi'r cyfarwyddiadau ynghylch cynnal yr adolygiad y mae'r person hwnnw yn eu barnu'n briodol.
Gohirio gwrandawiad
8 

(1) Caiff y tenant wneud cais i'r landlord i ohirio gwrandawiad a hysbyswyd yn unol â rheoliadau 3 a 4(3) a chaiff y landlord ildio i'r cais neu ei wrthod.
(2) Os gohirir y gwrandawiad, rhaid i'r landlord roi hysbysiad rhesymol i'r tenant am ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad gohiriedig.
Torri yn ystod gwrandawiad
9 

(1) Caiff y person sy'n cynnal yr adolygiad dorri ar y gwrandawiad ar unrhyw adeg, naill ai o ben a phastwn y person ei hun neu ar gais y tenant, cynrychiolydd y tenant neu'r landlord.
(2) Pan fo rhagor nag un person yn cynnal yr adolygiad drwy gyfrwng gwrandawiad llafar, rhaid torri ar y gwrandawiad bob tro y bydd unrhyw un o'r personau hynny yn absennol, oni bai bod y tenant neu gynrychiolydd y tenant yn cytuno fel arall.
(3) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad rhesymol i'r tenant am ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad y torrwyd arno.
(4) Os nad yr un person a oedd yn cynnal yr adolygiad yn y gwrandawiad cynharach yw'r person sy'n cynnal yr adolygiad yn y gwrandawiad y torrwyd arno, rhaid i'r adolygiad fynd rhagddo drwy ailwrando'r achos o'r newydd oni bai bod y tenant neu gynrychiolydd y tenant yn cytuno fel arall.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005