
2005 Rhif 1227 (Cy.85)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 26 Ebrill 2005
Yn dod i rym 1 Medi 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 134, 135, 145(1) a (2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 , mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i berson a benodwyd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn bennaeth ar y canlynol:
(a) ysgol yng Nghymru neu Loegr a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig yng Nghymru neu Loegr na chynhelir mohoni gan awdurdod addysg lleol;
(b) ysgol annibynnol yng Nghymru neu Loegr; neu
(c) sefydliad addysgol tebyg y tu allan i Gymru neu Loegr.
(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn:
 ystyr “Rheoliadau 2005 (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005;
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac
 ystyr “ysgol” (“school”) (oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni gan awdurdod addysg lleol.
Cymhwyster Prifathrawiaeth
3 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, dim ond os yw'n meddu ar un o'r canlynol y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol:—
(a) y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru;
(b) y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr;
(c) Safon Prifathrawiaeth yr Alban;
(ch) y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon ;
(d) cymhwyster sy'n debyg o ran ei effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005.
(2) Ystyr y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru yw'r cymhwyster a ddyfernir gan y Cynulliad Cenedlaethol i berson os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y person wedi llwyddo i gwblhau unrhyw gwrs hyfforddiant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo o dro i dro at ddibenion dyfarnu'r cymhwyster hwnnw.
Gofyniad bod rhaid meddu ar gymhwyster
4 
Dim ond os yw:
(a) yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig; neu
(b) yn meddu ar gymhwyster sy'n debyg o ran effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005
Gofyniad bod rhaid cofrestru
5 
Dim ond os yw wedi cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (cofrestr a gedwir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru)  y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol.
Penaethiaid dros dro
6 
Nid yw person sy'n cyflawni swyddogaethau pennaeth ysgol —
(a) hyd nes y penodir pennaeth, neu
(b) yn ystod absenoldeb pennaeth,yn gwasanaethu fel pennaeth yr ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005