
2005 Rhif 1226 (Cy.84)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Hysbysiadau) (Diwygio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 26 Ebrill 2005
Yn dod i rym 30 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 83(2) a (7) o Ddeddf Tai 1985 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Hysbysiadau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygiad: hysbysiad i'w gyflwyno cyn achos am orchymyn israddio
2 

(1) Mae Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Hysbysiadau) 1987 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 2, ychwaneger —“
3. 
The notice to be served on a secure tenant under section 83 of the Housing Act 1985 before the court can entertain proceedings for a demotion order under section 82A of that Act, shall be in the form specified in Part III of the Schedule to these Regulations, or in a form substantially to the same effect.”
(3) Yn yr Atodlen, ar ôl Rhan II ychwaneger —“
PART III Notice before proceedings for a demotion order”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005