
2005 Rhif 1225 (Cy.83) (C.55)
TAI, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 26 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 93(2)(b) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 30 Ebrill 2005; a
(b) mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ac Atodlenni iddi.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
2 
Mae darpariaethau canlynol Rhan 2 (Tai) yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn—
(a) adran 12 (ymddygiad gwrthgymdeithasol: polisïau a gweithdrefnau landlordiaid);
(b) adran 14 ac Atodlen 1 (sicrwydd deiliadaeth: ymddygiad gwrthgymdeithasol) (tenantiaethau isradd) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(c) adran 15 (tenantiaethau byrddaliol sicr isradd).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005