
2005 Rhif 1206 (Cy.78) (C.54)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 19 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 148(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol —
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchmyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Y diwrnod penodedig
2 
6 Mehefin 2005 yw'r diwrnod penodedig i adrannau 3(3) a (4) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Ebrill 2005