
2005 Rhif 118 (Cy.10)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 25 Ionawr 2005
Yn dod i rym 31 Ionawr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 104 o Ddeddf Plant 1989, a pharagraff 1(1) o Atodlen 9A iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Plant 1989.
Y rheidrwydd i gofrestru gofal dydd mewn ysgolion o dan Ran XA
3 
Yn ddarostyngedig i reoliad 5, mae'r amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 yn amgylchiadau a ragnodir at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 9A i'r Ddeddf (esemptio ysgolion penodol).
4 
Yr amgylchiadau a ragnodir yw pan fydd edrych ar ôl plant, a hynny ag eithrio wrth roi addysg iddynt, yn brif bwrpas darparu'r gofal dydd.
Darpariaethau Trosiannol
5 
Os cafodd y gofal dydd y mae rheoliad 4 yn gymwys iddo ei ddarparu am y tro cyntaf yn yr ysgol sydd o dan sylw cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac os bydd yn parhau i gael ei ddarparu felly, ni fydd rheoliadau 3 a 4 yn gymwys i'r gofal dydd hwnnw (ac felly ni fydd darparu'r gofal dydd hwnnw, a hynny heb gofrestru, wedi'i wahardd gan adran 79D(5) o'r Ddeddf):—
(a) hyd nes 1 Ebrill 2005 os na chyflwynwyd cais cyflawn am gofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf mewn perthynas â darparu'r gofal dydd hwnnw yn yr ysgol honno cyn 1 Ebrill 2005;
(b) os gwneir cais felly cyn 1 Ebrill 2005, hyd nes y diwrnod y caiff y ceisydd ei hysbysu o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag ef;
(c) os gwneir cais felly cyn 1 Ebrill 2005, ac os penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag ef oedd ei wrthod neu ei ganiatáu yn amodol, a'r amodau hynny'n rhai nad ydynt oll wedi eu cytuno'n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol, hyd nes diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad yr hysbyswyd yr ymgeisydd o'r penderfyniad hwnnw;
(ch) os bydd y ceisydd sydd am gofrestru yn apelio yn erbyn penderfyniad y mae is-baragraff (c) yn gymwys iddo, dyddiad gollwng yr apêl neu, os na chaiff ei ollwng, y dyddiad y caiff yr apelydd ei hysbysu o'r penderfyniad mewn perthynas ag ef;pa ddyddiad bynnag sydd ddiweddaraf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Ionawr 2005