
2005 Rhif 1161 (Cy.76)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Dirymu) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 13 Ebrill 2005
Yn dod i rym 15 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Dirymu) (Cymru) 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Ebrill 2005, yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu Rheoliadau
2 
Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —
(a) Rheoliadau Tatws s'n Tarddu o'r Iseldiroedd 1997; a
(b) Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Diwygio) 1998 .
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Ebrill 2005