
2005 Rhif 1153 (Cy.70) (C.53)
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 12 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 6(3) o Ddeddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2005.
Y diwrnod penodedig
2 
18 Ebrill 2005 yw'r dyddiad a benodwyd ar gyfer dod ag adrannau 1 i 5 o Ddeddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Ebrill 2005