
2004 Rhif 999 (Cy.105) (C.43)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 30 Mawrth 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004
2 
Mae darpariaethau canlynol Rhan 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn dod i rym ar 31 Mawrth 2004 mewn perthynas â Chymru —
(a) adran 40 (cau mangreoedd swnllyd);
(b) adran 41 (cau mangreoedd swnllyd: atodol);
(c) adran 42 (ymdrin â sŵ n yn y nos);
(ch) adran 43 (hysbysiadau cosbau ar gyfer graffiti a gosod posteri);
(d) adran 44 (ystyr tramgwydd perthnasol);
(dd) adran 45 (derbynebau a derbyniadau cosbau);
(e) adran 47 (dehongli etc.);
(f) adran 48 (hysbysiadau cael gwared ar graffiti);
(ff) adran 49 (adennill gwariant);
(g) adran 50 (canllawiau);
(ng) adran 51 (apelau);
(h) adran 52 (esemptiad rhag atebolrwydd mewn perthynas â hysbysiadau cael gwared ar graffiti);
(i) adran 55 (gwastraff a adawyd yn anghyfreithiol etc.); ac
(l) adran 56 (estyn pwerau awdurdod sbwriel i gymryd camau adfer).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004