
2004 Rhif 912 (Cy.95) (C.40)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 24 Mawrth 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig (ac eithrio mewn perthynas ag adran 198).
Dehongli
3 

(1) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Diwrnodau penodedig
4 
31 Mawrth 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5 
1 Awst 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Darpariaeth drosiannol — sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir
6 
Er bod adran 154 yn dod i rym, ni fydd y paragraffau (aa) a (d) newydd yn is-adran (1) o adran 28 o Ddeddf 1998 yn gymwys lle mae awdurdod addysg lleol yng Nghymru wedi cymryd penderfyniad cyn 31 Mawrth 2004 i sefydlu ysgol feithrin newydd a gynhelir neu i wneud newid rhagnodedig i ysgol feithrin a gynhelir.
Darpariaeth drosiannol — trefniadau derbyn ar gyfer addysg feithrin
7 
Er bod paragraff 12(1), (3) i (5) o Atodlen 4 sy'n diwygio adran 98 o Ddeddf 1998 yn dod i rym, ni fydd y diwygiadau a wneir gan baragraff 12(3), (4) a (5) yn gymwys i flwyddyn ysgol sy'n gynharach na'r flwyddyn ysgol 2004 i 2005 mewn perthynas â derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar gyfer addysg feithrin.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mawrth 2004
ATODLEN
Erthyglau 4 a 5
RHAN 1 Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isod Trefniadau derbyn — addysg feithrin
Adran 154 Sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir
Adran 156 Ystyr ysgol feithrin ac addysg gynradd
Adran 198 Trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 4, paragraff 12(1), (3) i (5) Trefniadau derbyn — addysg feithrin
Atodlen 21 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 98(2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym 
Paragraff 115(5) ac eithrio is-baragraff (b) 
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — Diddymiadau
Deddf Addysg 1996, yn adran 4(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”, 
yn adran 5(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”, 
yn adran 548(8), paragraff (c), 
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn adran 33(1), y gair “and” ar ddiwedd paragraff (b), adran 39. 
RHAN 2 Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Awst 2004

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 177 Ystyr “secondary education”
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — Diddymiadau
Deddf Addysg 1996, yn adran 2(3)(a) y geiriau “(including vocational, social, physical and recreational training)”. 