
2004 Rhif 909 (Cy.92)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Sbwriel a Baeddu gan Gwn (Cosb Benodedig) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 24 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 88(7) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a chan y ddarpariaeth honno fel y'i cymhwysir gan adran 4(2) o Ddeddf Cwn (Baeddu Tir) 1996, sef y pwerau sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sbwriel a Baeddu gan Gŵn (Cosb Benodedig) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr yn unig ac mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig.
Swm y gosb benodedig
2 
Yn adran 88(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (sy'n pennu'r gosb benodol am adael sbwriel ac a gymhwysir yn ogystal gan adran 4(2) o Ddeddf Cŵ n (Baeddu Tir) 1996)—
(a) ar ôl y swm a bennwyd ar gyfer Lloegr mewnosoder “or, in Wales, £75”, a
(b) diddymir drwy hyn unrhyw gyfeiriad at £25 sy'n goroesi.
Dirymu
3 

(1) Dirymir Gorchymyn Sbwriel (Cosb Benodedig) 1996 mewn perthynas â Chymru.
(2) Dirymir Erthygl 3 o Orchymyn Baeddu gan Gŵ n (Cosbau Penodedig) 1996 (swm y gosb benodedig) mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mawrth 2004