
2004 Rhif 907 (Cy.90)
DATBLYGU ECONOMAIDD, CYMRU
Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Tir Diffaith) 2004
Wedi'i wneud 24 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 16(6) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bellach:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Tir Diffaith) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.
Cynnydd y Ganran Ragnodedig
2 
At ddibenion is-adran (6) o adran 16 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, ystyr “the prescribed percentage” (y ganran a ragnodwyd) yw 100 y cant.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mawrth 2004