
2004 Rhif 872 (Cy.87)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 23 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2(1) —
(a) mewnosoder ar ôl y diffiniad o “cyflogwr” y diffiniadau canlynol—“
 ystyr “cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin” (“ordinary adoption leave period”) yw cyfnod o absenoldeb mabwysiadu cyffredin o dan Ran 3 o Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 ;
 ystyr “cyfnod absenoldeb mamolaeth” (“maternity leave period”) yw'r cyfnod absenoldeb mamolaeth a nodir yn rheoliad 7(1) o Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999;
 ystyr “cyfnod absenoldeb rhieiniol” (“parental leave period”) yw cyfnod o absenoldeb rhieiniol o dan Ran III o Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999;
 ystyr “cyfnod absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave period”) yw cyfnod o absenoldeb tadolaeth o dan Ran 2 o Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002;”.
(b) yn y diffiniad o “cyfnod allweddol” yn lle'r geiriau “adran 355(1) o Ddeddf 1996” rhodder y geiriau “adran 103(1) o Ddeddf 2002”;
(c) mewnosoder ar ôl y diffiniad o “Deddf 1998” y diffiniad canlynol—“
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;”;
(ch) hepgorer y diffiniad o “pwnc craidd”;
(d)  hepgorer y diffiniad o “pwnc sylfaen”.
4 

(1) Caiff Rheoliad 6 ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)(a) yn lle'r geiriau “adran 15(6)(a) i (c)” rhodder y geiriau “adran 15(6) (a) a (b)”.
(3) Ym mharagraff (3)(a) yn lle'r geiriau “adran 354(3) o Ddeddf 1996” rhodder y geiriau “adran 105(2) a (3) ac adran 106(2) a (3) o Ddeddf 2002”.
(4) Ym mharagraff (3)(b) yn lle'r geiriau “adran 353” i'r diwedd rhodder y geiriau “adran 105(1) o Ddeddf 2002 (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) heblaw mewn perthynas â threfniadau asesu; ac”.
5 

(1) Caiff rheoliad 8 ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1) mewnosoder ar ôl y geiriau “o hyd” y geiriau “, neu, yn ddarostyngedig i baragraff (1A), dau hanner tymor ysgol,”.
(3) Mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff (1) —“
(1A) Os yw cyfnod o gyflogaeth o dan baragraff (1) yn ddau hanner tymor ysgol yna mae'n rhaid i'r ddau hanner tymor ysgol hynny ddilyn ei gilydd (gan anwybyddu gwyliau ysgol).”.
(4) Ym mharagraff (2) mewnosoder ar ôl y geiriau “o hyd” y geiriau “, neu, yn ddarostyngedig i baragraff (2A), dau hanner tymor,”.
(5) Mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff (2) —“
(2A) Os yw cyfnod o gyflogaeth o dan baragraff (2) yn ddau hanner tymor yna mae'n rhaid i'r ddau hanner tymor hynny ddilyn ei gilydd (gan anwybyddu gwyliau).”.
(6) Ar ddiwedd paragraff (3) ychwaneger y canlynol —“neu o fewn 2 wythnos o gychwyn y cyfnod”.
6 
Caiff rheoliad 9 ei ddiwygio trwy roi yn lle paragraff (2) y canlynol —“
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i absenoldeb o'r gwaith oherwydd cyfnod absenoldeb mamolaeth, cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, cyfnod absenoldeb rhieiniol neu gyfnod absenoldeb tadolaeth oni bai bod y person yn dewis hynny.”.
7 

(1) Caiff Rheoliad 18 ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Caiff y geiriad presennol ei ailrifo'n baragraff (1).
(3) Mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff (1) a ailrifwyd —“
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff y corff priodol awdurdodi bod person na ellir ei gyflogi mwyach fel athro neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 yn cael ei gyflogi am gyfnod neu gyfnodau o lai nag un tymor fel athro neu athrawes gyflenwi.
(3) Dim ond yn ystod cyfnod o ddeuddeg mis yn cychwyn ar y dyddiad y cyflogir y person gyntaf fel athro neu athrawes gyflenwi (gan unrhyw gyflogwr) y caiff person ei gyflogi felly yn unol â pharagraff (2).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) anwybyddir cyfnod y mae paragraff (5) yn gymwys iddo wrth gyfrifo'r cyfnod o ddeuddeg mis y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gyfnod pan nad yw person yn gweithio oherwydd amgylchiadau a fyddai'n rhoi hawl i gyflogai y mae Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999 neu Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 yn gymwys iddo, i gael cyfnod absenoldeb mamolaeth, cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, cyfnod absenoldeb rhieiniol neu gyfnod absenoldeb tadolaeth, yn ôl y digwydd.
(6) Mae'r cyfnod sydd i'w anwybyddu o dan baragraff (4) yn gyfnod o'r un hyd â'r cyfnod absenoldeb mamolaeth, y cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, y cyfnod absenoldeb rhieiniol neu'r cyfnod absenoldeb tadolaeth perthnasol, neu os yw'n fyrrach, y cyfnod pan nad yw'r person yn gweithio.”.
8 

(1) Diwygir Atodlen 1 fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 4 rhodder y canlynol —“
4. 

(1) Person a gyflogir fel athro neu athrawes gyflenwi pan fo'r cyfnod neu'r cyfnodau cyflogaeth, ym mhob achos, yn llai nag un tymor, ac nad yw'r cyfnod er pan gyflogwyd y person gyntaf fel athro neu athrawes gyflenwi mewn ysgol berthnasol (gan unrhyw gyflogwr) yn fwy nag un flwyddyn ac un tymor.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anwybyddir cyfnod y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo wrth gyfrifo'r cyfnod o un flwyddyn ac un tymor y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).
(3) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i gyfnod pan nad yw person yn gweithio oherwydd amgylchiadau a fyddai'n rhoi hawl i gyflogai y mae Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999 neu Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 yn gymwys iddo, i gael cyfnod absenoldeb mamolaeth, cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, cyfnod absenoldeb rhieiniol neu gyfnod absenoldeb tadolaeth, yn ôl y digwydd.
(4) Mae'r cyfnod sydd i'w anwybyddu o dan is-baragraff (2) yn gyfnod o'r un hyd â'r cyfnod absenoldeb mamolaeth, y cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, y cyfnod absenoldeb rhieiniol neu'r cyfnod absenoldeb tadolaeth perthnasol, neu os yw'n fyrrach, y cyfnod pan nad yw'r person yn gweithio.”.
(3) Ar ôl paragraff 4, mewnosoder y paragraffau canlynol —“
4A. 
Person a gyflogir fel athro neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2).
4B. 
Person na ellir ei gyflogi mwyach o dan baragraff 4 ond a gyflogir am gyfnod o lai nag un tymor fel athro neu athrawes gyflenwi tra bo'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu wrth weithio'n rhan-amser.”.
(4) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff 5 —“
5. 
Person sy'n athro ysgol o fewn yr ystyr sydd i hynny yn adran 122(5) o Ddeddf 2002.”.
(5) Ar ddiwedd paragraff 9 ychwaneger y geiriau “, ac fel y'i diwygiwyd gan y Cytundeb ar Ryddid i Bobl Symud a wnaed rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, ar y naill law, a Chyd-ffederasiwn y Swistir, ar y llaw arall, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002.”.
(6) Ar ôl paragraff 19 ychwaneger y paragraff canlynol —“
20. 
Person —
(a) sydd wedi cwblhau yn llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig a bod yr hyfforddiant hwnnw'n cael ei gydnabod felly gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno;
(b) nad oes ganddo lai na dwy flynedd o brofiad dysgu llawnamser, neu yr hyn sy'n cyfateb i hynny yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;
(c) sy'n athro neu'n athrawes gymwysedig yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999; a
(ch) y cafwyd, pan gafodd ei asesu gan berson a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei fod yn bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mawrth 2004