
2004 Rhif 871 (Cy.86)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 23 Mawrth 2004
Yn dod i rym 5 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2004.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2 
Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli), ar ôl y diffiniad o “relevant income” mewnosoder y diffiniad canlynol—“
 mae “ severe disability element” i'w ddehongli yn unol ag adran 11(6)(d) o Ddeddf Credydau Treth 2002;”.
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
3 

(1) Mae Rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau llawn) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaeth ganlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (2)(e)—
(a) Yn y geiriau cloi, yn lle “£14,200” rhodder “£14,600”;
(b) yn is-baragraff (ii), ar ôl “disability element” mewnosoder “or severe disability element”.
Diwygio Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
4 

(1) Diwygir Tabl A o Ran I o'r prif Reoliadau (addasiadau i ddarpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm 1987 at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 53 yn lle “£12,000” rhodder £12,250” ac yn lle “£19,500” rhodder “£20,000”.
(3) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 45 —
(a) ym mharagraff (b), yn lle “£19,500” rhodder “£20,000”;
(b) ym mharagraff (c), yn lle “£12,000” rhodder “£12,250”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mawrth 2004