
2004 Rhif 79 (Cy.9)
PRIFFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004
Wedi'i wneud 15 Ionawr 2004
Yn dod i rym 19 Chwefror 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 10 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a phob pŵ er galluogi arall:-
1 
Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.
2 
Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.
3 
Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd, a chaiff ei ddosbarthu fel ffordd ddosbarthiadol, o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Powys fod gefnffordd newydd ar agor i draffig trwodd.
4 
Yn y Gorchymyn hwn :—
(1) Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(2) ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40);
 ystyr “y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”) yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan a rifwyd HA10/2 NAFW 4 ac a farciwyd Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004 a lofnodwyd drwy awdurdod y Gweinidog dros Ddatbygu Economaidd a Thrafnidiaeth a'i adneuo yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU) Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
5 
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Chwefror 2004 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004.
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
S C SHOULER
Pennaeth yr Is-adran Gweinyddu Ffyrdd
Llywodraeth Cynulliad Cymru
15 Ionawr 2004
ATODLEN 1
Llwybr y gefnffordd newydd
Llwybr y gefnffordd newydd yw llwybr rhwng Bwlch a Chrucywel yng nghyffiniau'r eiddo a elwir Heol Draw Cottage, ger Tretŵ r yn Sir Powys oddeutu 0.80 cilomedr o hyd gan ddechrau ar bwynt ar y gefnffordd bresennol oddeutu 200 metr i'r gogledd orllewin o ddiwedd y wal ar ochr de ddwyrain y fynedfa i'r eiddo a elwir Dan-y-Myarth gan barhau i gyfeiriad y de ddwyrain hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol sy'n cyd-ddigwydd â llinell ganol y fynedfa i gae Rhif 8248 gyferbyn â'r fynedfa i Westy Gliffaes.
ATODLEN 2
Y darn o'r gefnffordd a fydd yn peidio â bod yn gefnffordd
Y darn o'r gefnffordd a fydd yn peidio â bod yn gefnffordd yw'r darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt oddeutu 13 metr o ddechrau'r wal/giât ar ochr de ddwyrain yr eiddo a elwir Heol Draw Cottage, ger Tretŵ r, hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol 26 metr o ddechrau'r wal/giât ar ochr de ddwyrain yr eiddo a elwir Heol Draw Cottage, ger Tretŵ r.