
2004 Rhif 783 (Cy.80)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 16 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77(2) a (4), 80(4), 83(9) a 84(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 rhowch y canlynol —“
2. 
Mae arolygiadau i'w cynnal —
(a) o fewn chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf, neu
(b) os nad oes arolygiad wedi bod, o fewn chwe mlynedd o ba un bynnag yw'r cynharaf o'r canlynol —
(i) dyddiad unrhyw asesiad neu arolygiad a gyflawnwyd o dan adran 9(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
(ii) dyddiad sefydlu sefydliad sy'n darparu'r addysg a hyfforddiant sydd i gael eu harolygu; neu
(iii) 1 Medi 2004,
ac yna o fewn pob cyfnod o chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf.”.
(3) Yn rheoliad 3 —
(a) yn lle'r Rhif “55” rhowch y Rhif “70”, a
(b) dilëwch y geiriau “neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw”.
(4) Yn rheoliad 4(1) —
(a) yn lle'r Rhif “40” rhowch y Rhif “50”, a
(b) dilëwch y geiriau “neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith” a'r geiriau “(yn y naill achos neu'r llall)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mawrth 2004