
2004 Rhif 711 (Cy.78)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 10 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55(3) a 118(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
Dehongli
2 
Yn y rheoliadau hyn—
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “gweithiwr cymdeithasol o dan hyfforddiant” (“student social worker”) yw person sy'n cymryd rhan mewn cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor o dan adran 63 o'r Ddeddf i bersonau sy'n dymuno bod yn weithwyr cymdeithasol.
Personau i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol
3 

(1) Mae gweithwyr gofal cymdeithasol o dan hyfforddiant i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol at y diben a bennir ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn.
(2) Y diben yw cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol o dan hyfforddiant yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor o dan adran 56(1) o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mawrth 2004