
2004 Rhif 71 (Cy.7)
YR IAITH GYMRAEG
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004
Wedi'i wneud 14 Ionawr 2004
Yn dod i rym 1 Chwefror 2004

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
A chan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau y mae eu holl weithgareddau neu'n sylweddol eu holl weithgareddau yn cael eu gwneud o dan gytundeb neu yn unol â threfniadau a wnaed gyda pherson sy'n gweithredu fel gwas neu asiant i'r Goron;

Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 a daw i rym ar 1 Chwefror 2004.
Pennu Cyrff Cyhoeddus
2 
Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Ionawr 2004
YR ATODLEN
Erthygl 2

Cwmni sydd yn ymgymerwr dŵ r neu'n ymgymerwr carthffosiaeth neu'r ddau ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵ r 1991 neu yn rhinwedd amrywio'r fath benodiad o dan adran 7 o'r Ddeddf honno.
