
2004 Rhif 709 (Cy.76)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Cymdeithasol o dan Hyfforddiant) (Cofrestru) 2004
Wedi'u gwneud 10 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 56(1)(b) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac ar ôl ymghynghori â Chyngor Gofal Cymru, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli.
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Cymdeithasol o dan Hyfforddiant) (Cofrestru) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “gweithiwr cymdeithasol o dan hyfforddiant” (“student social worker”) yw person sy'n cymryd rhan mewn cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor o dan adran 63 o'r Ddeddf ar gyfer personau sydd am fod yn weithwyr cymdeithasol.
Pennu gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant
2 
Pennir gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant drwy hyn at ddibenion adran 56(1)(b) o'r Ddeddf (gofyniad i'r Cyngor gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol penodedig).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mawrth 2004