
2004 Rhif 70 (Cy.6)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 14 Ionawr2004
Yn dod i rym 31 Ionawr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(10) a 64(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994
2 
Mae Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygio rheoliad 10: cofrestrau cyhoeddus
3 
Yn rheoliad 10 (manylion i'w cynnwys mewn cofrestrau cyhoeddus), ar ddiwedd paragraff (1)(g) rhodder:“
(iv) the scores which result from any risk appraisal relating to a site which is subject to a waste management licence;”.
Diwygio rheoliad 12: offer symudol
4 

(1) Yn rheoliad 12 (offer symudol) —
(a) ym mharagraff (1) —
(i) rhodder, yn lle is-baragraff (d), —“
(d) plant for the treatment of clinical waste;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (e), rhodder —“
(f) plant for the dewatering of muds, sludges, soils and dredgings;
(g) plant for the treatment by lime stabilisation of sludge;
(h) plant for the treatment of contaminated material, substances or products, for the purpose of remedial action with respect to land or controlled waters;”; a
(b) rhodder, ar ôl paragraff (2) —“
(3) For the purposes of paragraph (1)(h), “controlled waters” has the meaning given by section 104 of the Water Resources Act 1991.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Ionawr 2004