
2004 Rhif 699 (Cy.74)
LANDLORD A THENANT
Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 9 Mawrth 2004
Yn dod i rym 31 Mawrth 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad 1967 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.
Cymhwyso
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig —
(a) mewn perthynas â thŷ lesddaliad yng Nghymru;
(b) i achosion lle mae hysbysiad o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad (hysbysiad tenant o ddymuniad i gael neu i honni bod ganddo hawl i gaffael y rhydd-ddaliad neu les estynedig) ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygiadau
3 
Diwygir Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) 1967 fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff 2 o Ran 1 o'r Atodlen, ar ôl y geiriau “tenancy and” rhodder “, in a case to which paragraph 2A applies,”;
(b) ar ôl y paragraff hwnnw rhodder—“
2A 
This paragraph applies where—
(a) the tenancy in question is a business tenancy; or
(b) a flat forming part of the house is let to a person who is a qualifying tenant for the purposes of Chapter 1 or 2 of Part 1 of the Leasehold Reform, Housing and Urban Development Act 1993,”;
(c) ym mharagraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen ar ôl y geiriau “tenancy and” rhodder “, in a case to which paragraph 1A applies,”;
(d) ar ôl y paragraff hwnnw rhodder—“
1A 
This paragraph applies where—
(a) the tenancy in question is a business tenancy; or
(b) a flat forming part of the house is let to a person who is a qualifying tenant for the purposes of Chapter 1 or 2 of Part 1 of the Leasehold Reform, Housing and Urban Development Act 1993.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004