
2004 Rhif 685 (Cy.73)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin nad ydynt yn rhai IACS (Apelau) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 9 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol —
Teitl a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin nad ydynt yn rhai IACS (Apelau) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person y mae penderfyniad cychwynnol wedi'i wneud ynglŷn ag ef gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â gweinyddu unrhyw un o'r Cynlluniau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac sy'n dymuno bod y penderfyniad cychwynnol hwnnw yn cael ei ailystyried gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac
 ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y cafodd y penderfyniad cychwynnol ei wneud.
Cymhwyso
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ynghylch apelwyr yr oedd eu cyfeiriad masnachu, neu os oes mwy nag un cyfeiriad o'r fath, yr oedd eu prif gyfeiriad masnachu, yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.
Darparu gweithdrefn apelau
4 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gweithdrefn, sydd i'w defnyddio ar gais unrhyw apelydd, ar gyfer ystyried ymhellach ar ran y Cynulliad Cenedlaethol benderfyniad cychwynnol a wnaed ynglŷn â'r apelydd mewn perthynas â gweinyddu unrhyw un o'r Cynlluniau a restrir yn yr Atodlen, a bod y weithdrefn honno yn gweithredu drwy gyfrwng apêl yn erbyn y penderfyniad cychwynnol.
(2) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlir felly ddarparu bod ystyriaeth o'r penderfyniad cychwynnol gan y personau (heb fod yn fwy na thri) sy'n cael eu penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol at y diben hwnnw, a hynny gyda'r bwriad y byddent yn llunio adroddiad am eu casgliadau ynglŷn â'r penderfyniad cychwynnol ac argymhelliad ynglŷn â'r ffordd y dylai'r mater gael ei benderfynu'n derfynol ganddo
(3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu'r weithdrefn a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff —
(a) talu i'r personau a benodir felly unrhyw dâl rhesymol am eu swyddogaethau o dan y weithdrefn honno, ac unrhyw lwfansau teithio a lwfansau eraill, y bydd yn penderfynu arnynt; a
(b) codi'r ffi (a honno heb fod yn uwch na £100) y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arni ar unrhyw apelydd y mae ei apêl yn cael ei hystyried o dan y weithdrefn a sefydlwyd felly am y costau a dynnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd rhoi'r weithdrefn honno ar waith mewn perthynas â'r apêl o dan sylw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
YR ATODLEN
CYNLLUNIAU Y CAIFF CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU SEFYDLU GWEITHDREFN APELAU AR EU CYFER
Rheoliad 2 a 4 (1)


Y Cynllun Rheoliad y cyngor sy'n sefydlu'r cynllun
CYFFREDINOL
Cymorth ar gyfer Myst Grawnwin Dwysedig (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin (Erthygl 34)
Cymorth Porthiant Dadhydradedig (EC) Rhif 1786/2003 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn porthiant dadhydradedig.
Cymorth Bwyta Afalau (EEC) Rhif 2826/2000 ar weithgareddau hysbysrwydd a hyrwyddo ar gyfer cynhyrchion amaethyddol sydd ar gael ar y farchnad fewnol
Rhaglen Hysbysrwydd Cig Eidion (EC) Rhif 2826/2000) ar hysbysrwydd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol sydd ar gael ar y farchnad fewnol a chamau i'w hyrwyddo (Erthyglau 1 a 2)
Ymenyn ar gyfer Gweithgynhyrchu (EC) Rhif 1255/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Erthygl 13(1)(c) — (d))
Ymenyn ar gyfer Cyrff nad ydynt yn Gwneud Elw (EC) Rhif 1255/1999) ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Erthygl 13(1)(a))
Rheoli Casein wrth Wneud Caws (EC) Rhif 1255/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Erthygl 12).(EEC) Rhif 2204/90 yn gosod rheolau cyffredinol ychwanegol ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth o ran caws fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan(EC) Rhif 2583/2001)
Cymhorthdal Cynhyrchu Casein (EC) Rhif 1255/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Erthygl 12)
Cymorth Prosesu Sitrysau (EC) Rhif 2202/96 yn cyflwyno cynllun cymorth Cymunedol ar gyfer cynhyrchwyr ffrwythau sitrws penodol (Erthygl 1)
Ymenyn Dwysedig ar gyfer ei Fwyta'n Uniongyrchol (EC) Rhif 1255/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Erthygl 13(1)(e))
Rheoli'r Defnydd Olaf ar (EC) Rhif 2202/96) yn cyflwyno cynllun cymorth Cymunedol ar gyfer Ffrwythau a Llysiau Penodol cynhyrchwyr ffrwythau sitrws penodol (Erthygl 30)
Cymorth Prosesu Ffibrau (EC) Rhif 1673/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn llin a chywarch sy'n cael eu tyfu ar gyfer ffibr fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan(EC) Rhif 1782/2003)
Cymorth Trosglwyddo Pysgod (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (Erthygl 23)
Cymorth Cyfradd Safonol Pysgod (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (Erthygl 24)
Premiwm Cyfradd Safonol Pysgod (EC) Rhif 104/2000) ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (Erthygl 24)
Cymorth Storio Pysgod yn Breifat (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (Erthygl 25)
Iawndal ar gyfer Tynnu Pysgod oddi ar y Farchnad (EC) Rhif 104/2000) ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (Erthygl 21)
Tynnu Ffrwythau a Llysiau Ffres yn ôl (EC) Rhif 2200/96 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn ffrwythau a llysiau (Erthyglau 23 a 24) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 2699/2000
Rhaglen Weithredol Ffrwythau a Llysiau (EC) Rhif 2200/96 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn ffrwythau a llysiau (Erthyglau 15 ac 16) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 2699/2000
Cydnabod Cyrff Cynhyrchwyr Ffrwythau a Llysiau (EC) Rhif 2200/96 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn ffrwythau a llysiau (Erthyglau 11 — 14) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1881/2002
Cymorth Sudd Grawnwin (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin (Erthygl 35) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 2826/2000)
Cymorth Cynhyrchu Had Porfa (EEC) Rhif 2358/71 y Cyngor ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn hadau (Erthygl 1) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EEC) Rhif 3695/92)(EEC) Rhif 1674/72 y Cyngor yn gosod rheolau cyffredinol ar gyfer rhoi ac ariannu cymorth ar gyfer had (Erthygl 1) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EEC) Rhif 3795/85
Y Cynllun Cwotâu Llaeth a chynhyrchion llaeth (EEC) Rhif 1788/2003) yn sefydlu ardoll ychwanegol yn y sector llaeth
Y Cynllun Dros Dri Deg Mis (EC) Rhif 1254/1999 y Cyngor ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo (Erthygl 39)
Hyrwyddo i'r Farchnad Fewnol (EC) Rhif 2826/2000) ar hysbysrwydd a chamau hyrwyddo ar gyfer cynhyrchion amaethyddol ar y farchnad fewnol (Erthygl 1)
Hyrwyddo i Drydydd Gwledydd (EC) Rhif 2702/1999 ar fesurau i ddarparu hysbysrwydd am gynhyrchion amaethyddol a'u hyrwyddo mewn trydydd gwledydd
Y Cynllun Llaeth Ysgol (EC) Rhif 1255/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Erthygl 14) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1787/2003
Y Cynllun Difa Detholus a chig llo (Erthygl 39) (EC) Rhif 1254/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion
Powdr Llaeth Sgim ar gyfer Bwyd Anifeiliaid (EC) Rhif 1255/1999) ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Erthygl 11)
Startsh ar gyfer Defnyddwyr Olaf Rhagnodedig (EC) Rhif 1766/92 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn grawnfwydydd fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1253/1999
CYNLLUNIAU YMYRRAETH
Cig Eidion (EC) Rhif 1254/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion 1782/2003) a chig llo (Teitl I) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan(EC) Rhif 
Grawnfwydydd (EEC) Rhif 1766/92 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn grawnfwydydd (Pennod 1 o Deitl 1) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan(EC) Rhif 1253/1999)
Cynnyrch Llaeth (EC) Rhif 1255/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Pennod II) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1787/2003
CYNLLUNIAU CYMORTH I STORIO'N BREIFAT
Cig Eidion (EC) Rhif 1254/1999) ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1782/2003
Cynnyrch Llaeth EC) Rhif 1255/1999)ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Erthyglau 9 a 10(b)).
Cig Mochyn (EEC) Rhif 2759/75 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig mochyn fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1365/2000
Cig Dafad/Cig Gafr (EC) Rhif 2529/2001 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig dafad a chig gafr fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1782/2003
SIWGRAU, OLEWAU A STARTS
Puro Siwgr Câns (EC) Rhif 1260/2001 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd yn y sector siwgr (Erthyglau 35 a 38)
Rheolaeth Defnydd Olaf ar Olewau Llysiau Penodol Rheoliad Rhif 136/66/EEC) y Cyngor ar sefydlu cyd-drefniadaeth o'r farchnad mewn olewau a brasterau (Teitl I) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 3290/94
Cwotâu Isoglwcos ac Ardollau Cynhyrchu (EC) Rhif 1260/2001)y Cyngor ar sefydlu cyd-drefniadaeth y farchnad mewn olew a brasderau (Teitl II) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1513/2001
Cymorth Cynhyrchu Olew Olewydd Rheoliad Rhif 136/66/EECCyngor ar sefydlu cyd-drefniadaeth o'r farchnad mewn olew a brasterau (Teitl II) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC)) Rhif 1513/2001
Ad-dalu Costau Cynhyrchu ar gyfer siwgr sy'n cael ei ddefnyddio yn y Diwydiant Cemegol (EC) Rhif 1260/2001) gyd-drefniadaeth y marchnadoedd yn y sector siwgr (Teitl I)
Ad-daliadu Startsh — Grawnfwydydd (EEC) Rhif 1766/92ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn grawnfwydydd (Erthygl 13) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 2377/2002)
Ad-daliadau Startsh — Reis (EC) Rhif 3072/95ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn reis: (Erthygl 7)
Cwotâu Siwgr ac Ardollau Cynhyrchu (EC) Rhif 1260/2001 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd yn y sector siwgr: (Teitl I)
MASNACH ALLANOL
Bananas (EEC) Rhif 404/93 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn bananas fel ei ddiwygiwyd ddwethaf gan (EC) Rhif 2587/2001
Cig Eidion a Chig Llo (EC) Rhif 1254/1999) ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo: (Erthygl 1 a Theitl II)
Cwota Tariff ar Fewnforio Cig Eidion (EC) Rhif 1254/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo (Erthygl 1 a Theitl II)
Grawnfwydydd (EEC) Rhif 1766/92 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn grawnfwydydd (Teitl II)fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 2377/2002.
Wyau (EEC) Rhif 2771/75 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn wyau fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 806/2003.
Ethyl Alcohol (EC) Rhif 670/2003 yn gosod mesurau penodedig mewn perthynas â'r farchnad mewn ethyl alcohol sydd yn deillio o amaethyddiaeth (Erthygl 4)
Pysgod (EC) Rhif 104/2000) ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (Teitl V)
Tyfu Blodau (planhigion a blodau byw) (EEC) Rhif 234/68 ar sefydlu cyd-drefniadaeth y farchnad mewn coed byw a phlanhigion eraill, bylbiau, gwreiddiau ac ati, blodau toredig a deiliant addurniadol fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 806/2003)
Ffrwythau a Llysiau (EC) Rhif 2200/96 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn ffrwythau a llysiau (Teitl V) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 2699/2000
Llaeth/Cynhyrchion Llaeth (EC) Rhif 1255/1999) ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (Teitl II) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1040/2000
Olewau/Brasterau Rheoliad Rhif 136/66/EEC) y Cyngor ar sefydlu cyd-drefniadaeth o'r farchnad mewn olewau a brasterau: (Erthyglau 13 — 20, 28 a 29) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1513/2001
Hadau Olew/Hadau (EEC) Rhif 2358/71 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn hadau (Erthyglau 4, 5 a 7) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 3290/94
Cig Mochyn (EEC) Rhif 2759/75 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig mochyn fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 1365/2000)
Cig Dofednod (EEC) Rhif 2777/75 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig dofednod: fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 806/2003.
Nwyddau wedi'u Prosesu (EC) Rhif 3448/93 sy'n gosod y trefniadau ar gyfer masnachwyr sy'n gymwys I nwyddau penodol sy'n deillio o brosesu cynhyrchion amaethyddol fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 2580/2000
Reis (EC) Rhif 3072/95 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn reis (Teitl11) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 192/98)
Cig Dafad a Chig Gafr (EC) Rhif 2529/2001 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig dafad a chig gafrfel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 17892/2003.
Siwgr, Isoglwcos a Surop Inswlin (EC) Rhif 1260/2001 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd yn y sector siwgr (Teitl II)
Tybaco (EEC) Rhif 2075/92 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn tybaco crai fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan (EC) Rhif 806/2003)
Ad-daliadau chwisgiRhif (EEC) Rhif 1766/92 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn grawnfwydydd (Erthygl 13) fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan(EC) Rhif 2377/2002)
Gwin (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin (Teitl VII)