
2004 Rhif 670 (Cy.63)
LANDLORD A THENANT
Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 9 Mawrth 2004
Yn dod i rym 31 Mawrth 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 98 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.
Cymhwyso
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig —
(a) mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru;
(b) i achosion lle mae hysbysiad o dan adran 13 (hysbysiad gan denantiaid cymwys o hawliad i arfer hawl i ryddfreinio ar y cyd) neu adran 42 (hysbysiad gan denant cymwys o hawliad i arfer hawl i gaffael les newydd) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn cael ei gyflwyno ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygiadau
3 
Diwygir Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) 1993 fel a ganlyn—
(a) dileer paragraff 2 o Atodlen 1; a
(b) yn lle is-baragraff (4)(1) o Atodlen 2 rhodder —“
(1) The landlord may require the tenant to deduce his title to his tenancy, by giving him notice within the period of twenty one days beginning with the relevant date.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004