
2004 Rhif 551 (Cy.55)
PROFFESIYNAU GOFAL IECHYD A PHROFFESIYNAU CYSYLLTIEDIG, CYMRU
Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004
Wedi'i wneud 2 Mawrth 2004
Yn dod i rym 5 Mawrth 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1), (3), (4) a (7), 5 ac 8 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 yn gwneud y Gorchymyn canlynol: —
Enwi, cychwyn, a dehongli.
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 a daw i rym ar 5 Mawrth 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Mawrth 2004;
 ystyr “dyddiad gweithredol” (“operational date”) yw 1 Ebrill 2004;
 ystyr “PIC” (“HPW”) yw Proffesiynau Iechyd Cymru neu Health Professions Wales a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.
Sefydlu Proffesiynau Iechyd Cymru
2 
Sefydlir drwy hyn, a bydd yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, gorff corfforaethol a elwir Proffesiynau Iechyd Cymru neu Health Professions Wales.
Diben a swyddogaethau PIC
3 

(1) Sefydlir PIC at ddibenion ymgymryd â swyddogaethau mewn perthynas â phroffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd.
(2) Dyma swyddogaethau PIC a fydd yn ei alluogi i wneud y canlynol —
(a) ar ran y Cynulliad—
(i) hybu a chynghori ar ansawdd a darpariaeth addysg, hyfforddiant ac ymarfer,
(ii) ymgymryd â swyddogaethau awdurdod goruchwylio lleol yn unol ag erthygl 42(1)(b) ac erthygl 43 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001,
(iii) ymgymryd â swyddogaethau (ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â gwneud deddfwriaeth sylfaenol) o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd a Iechyd Cyhoeddus 1968;
(b) gwneud trefniadau â Chyngor Proffesiynau Iechyd Cymru i gyflawni swyddogaethau ar ran y Cyngor hwnnw mewn perthynas â Chymru;
(c) gwneud trefniadau â Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) i gyflawni swyddogaethau ar ran y Cyngor hwnnw mewn perthynas â Chymru;
(ch) gwneud trefniadau ag unrhyw gorff arall i gyflawni swyddogaethau ar ran y corff hwnnw mewn perthynas â Chymru; a
(d) cyflawni'r trefniadau hynny.
(3) Rhaid i PIC yn ymgymryd â'i swyddogaethau o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
(4) Caiff unrhyw aelod neu aelod o staff PIC, neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor PIC, wneud unrhyw beth a awdurdodwyd at y diben gan PIC (boed yn gyffredinol neu'n benodol) yr awdurdodwyd PIC i'w wneud neu sy'n ofynnol i PIC ei wneud.
(5) Caiff PIC godi'r ffioedd hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol am unrhyw wasanaethau y mae'n eu darparu wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth.
(6) Caiff PIC wneud unrhyw beth y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion arfer ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â hwy.
(7) Ni chaiff dilysrwydd unrhyw drafodion PIC eu heffeithio gan—
(a) unrhyw le gwag yn swydd y cadeirydd neu swydd aelod arall,
(b) unrhyw ddiffyg ym mhenodiad person fel cadeirydd neu aelod arall, neu
(c) cyfansoddiad aelodaeth PIC ar y pryd.
Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol
4 
Rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol bydd gan PIC y swyddogaethau canlynol —
(a) ymrwymo mewn contractau gan gynnwys contractau gwaith; a
(b) gwneud y pethau eraill hynny sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Dyddiad cyfrifyddu PIC
5 
Dyddiad cyfrifyddu PIC fydd 31 Mawrth.
Aelodau PIC
6 

(1) Bydd PIC yn cynnwys y canlynol—
(a) cadeirydd (a fydd yn aelod o PIC) a benodwyd gan y Cynulliad;
(b) aelodau eraill a benodwyd gan y Cynulliad a chaiff y Cynulliad, os gwêl yn dda, benodi un o'r aelodau eraill yn is-gadeirydd.
(2) Mwyafswm nifer aelodau PIC fydd 24.
(3) Os na chafodd is-gadeirydd ei benodi gan y Cynulliad, yna caiff yr aelodau benodi un o'u plith yn is-gadeirydd am y cyfnod hwnnw, nad yw'n fwy na gweddill cyfnod yr aelod hwnnw fel aelod o PIC, y caiff yr aelodau ei bennu.
(4) Os digwydd y canlynol —
(a) bod aelod a benodwyd naill ai gan y Cynulliad o dan erthygl 6(1)(b) neu gan aelodau o dan erthygl 6(3) yn is-gadeirydd, a
(b) bod y cadeirydd wedi marw neu wedi peidio â dal y swydd, neu os na all gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb o'r Deyrnas Unedig neu unrhyw achos arall,
rhaid i'r is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y penodir cadeirydd newydd neu nes bod y cadeirydd yn ailafael yn nyletswyddau cadeirydd yn ôl y digwydd, a bernir y bydd cyfeiriadau at y cadeirydd, am ba hyd bynnag nad oes cadeirydd sy'n gallu cyflawni dyletswyddau cadeirydd, yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.
(5) Aelodau PIC fydd—
(a) 
(i) personau o'r proffesiynau a gynrychiolir gan Bwyllgor Ymgynghorol Therapïau Cymru, Pwyllgor Gwyddoniaeth Ymgynghorol Cymru a Phwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru,
(ii) pobl broffesiynol sy'n meddu ar y cymwysterau, diddordebau neu brofiad a fyddai'n werthfawr wrth iddo arfer ei swyddogaethau,
(iii) personau sy'n cynrychioli gweithwyr cymorth gofal iechyd; a
(b) personau sydd â'r cyfryw gymwysterau, diddordebau neu brofiad a fydd yn werthfawr i PIC wrth iddo arfer ei swyddogaethau ond nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Cyngor Proffesiynau Iechyd Cymru, neu nad ydynt ar eu cofrestrau, neu unrhyw gorff rheoleiddio arall sy'n ymwneud â'r proffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd.
(6) Rhaid i'r Cynulliad yn arfer ei bwerau i benodi aelodau PIC i sicrhau ar bob adeg na fydd llai na 45% o'r aelodau yn bersonau a benodir yn unol â pharagraff (5)(b) uchod.
(7) Bydd y cadeirydd ac aelodau eraill PIC yn dal swydd ac yn ymadael â'r swydd yn unol â thelerau eu penodiad perthnasol.
(8) Bydd cyfnod swydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd aelodau eraill PIC am y cyfnod y caiff y Cynulliad ei benderfynu ond ni fydd —
(i) yn achos y cadeirydd, am gyfnod hirach na chyfnod o bum mlynedd,
(ii) yn achos yr is-gadeirydd, am gyfnod hirach na chyfnod o bum mlynedd, a
(iii) yn achos aelodau eraill, am gyfnod hirach na phum mlynedd;
(9) 
(i) Yn ddarostyngedig i (ii) isod, ni fydd gwasanaeth blaenorol fel cadeirydd neu aelod arall o PIC yn effeithio ar gymhwyster person i gael ei benodi fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall.
(ii) Ni fydd person a fu'n aelod am ddeng mlynedd yn olynol yn gymwys i gael ei ailbenodi.
(10) Caiff person sy'n dal swydd fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall o PIC ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y penodiad.
(11) Rhaid i PIC, os bydd y Cynulliad yn gofyn iddo wneud hynny, dalu i'r cadeirydd, is-gadeirydd ac aelodau eraill o PIC ac unrhyw aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor nad yw'n aelod o PIC y tâl, a lwfansau teithio a lwfansau eraill, y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt.
Symud rhywun o'i swydd
7 
Symudir person o'i swydd fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall o PIC —
(a) os oes newid yng nghymwysterau, diddordebau neu brofiad y person hwnnw sy'n ymddangos i'r Cynulliad na fydd y person o dan sylw yn cyfrannu bellach at arfer swyddogaethau PIC mewn modd sy'n cyfiawnhau parhad y person hwnnw fel aelod;
(b) os yw'r Cynulliad wedi'i fodloni bod y person wedi bod yn absennol o ddau gyfarfod olynol PIC heb esgus rhesymol neu ganiatâd PIC neu nad yw fel arall yn ffit neu'n alluog i gyflawni swyddogaethau cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall;
(c) mewn amgylchiadau eraill y gall fod PIC wedi darparu ar eu cyfer mewn rheolau sefydlog.
Prif Weithredwr
8 

(1) Rhaid i PIC benodi person yn Brif Weithredwr.
(2) Y person cyntaf a benodir o dan baragraff (1) fydd y person a enwir gan y Cynulliad i ddal y swydd honno ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.
(3) O ran yr ail Brif Weithredwr ac unrhyw Brif Weithredwr wedyn a benodir o dan baragraff (1)—
(a) dim ond gyda chydsyniad y Cynulliad y penodir ef; a
(b) caiff ei benodi ar y telerau a'r amodau y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt.
(4) Rhaid i PIC, os bydd y Cynulliad yn gofyn iddo wneud hynny—
(a) talu pensiwn, lwfansau neu arian rhodd y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt i unrhyw berson sydd neu sydd wedi bod yn Brif Weithredwr PIC neu mewn perthynas ag ef; neu
(b) gwneud y taliadau hynny y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt tuag at ddarparu taliad pensiwn, lwfans neu arian rhodd i berson o'r fath neu mewn perthynas ag ef.
Staff
9 
Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad mewn perthynas â'r canlynol—
(a) unrhyw amodau y mae'n rhaid eu cyflawni ar gyfer y swydd; a
(b) o ran telerau ac amodau cyflogaeth y staff (gan gynnwys darpariaeth ynghylch talu pensiynau, lwfansau neu arian rhodd a thalu iawndal am golli cyflogaeth),caiff PIC benodi'r cyflogeion hynny fel y gwêl orau.
Trafodion
10 

(1) Rhaid i PIC fabwysiadu rheolau sefydlog neu reolau eraill sy'n ymwneud â thrafodion PIC fel y gwêl orau.
(2) Gellir amrywio neu ddirymu'r rheolau mewn unrhyw gyfarfod PIC ar ôl hynny.
(3) Caiff PIC benodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau a all gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o PIC.
Cyfrifon ac archwiliadau
11 

(1) Rhaid i PIC gadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.
(2) Rhaid i PIC baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn y ffurf y caiff y Cynulliad benderfynu arni.
(3) Rhaid cyflwyno'r cyfrifon a baratoir gan PIC ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn diwedd y cyfnod hwnnw ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol yn ôl cyfarwyddyd y Cynulliad.
(4) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a) archwilio ac ardystio'r cyfrifon a gyflwynir iddo o dan baragraff (3); a
(b) gosod copi ardystiedig ohonynt gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arnynt.
(5) Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru wneud ymchwiliadau i ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y bu PIC wrth arfer ei swyddogaethau.
(6) Ni ddehonglir dim ym mharagraff (5) fel pe bai'n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi PIC.
(7) Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gyflwyno adroddiad gerbron y Cynulliad o ganlyniadau unrhyw ymchwiliad a wnaeth o dan baragraff (5).
Adroddiadau a gwybodaeth
12 

(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i PIC roi adroddiad i'r Cynulliad ar y ffordd y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.
(2) Rhaid i PIC gyhoeddi'r adroddiad a wneir o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i PIC hefyd roi unrhyw wybodaeth arall i'r Cynulliad sy'n ymwneud â'r ffordd y mae'n arfer ei swyddogaethau y gall y Cynulliad ofyn amdani.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2004