
2004 Rhif 460 (Cy.45)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2004
Wedi'u gwneud 25 Chwefror 2004
Yn dod i rym 26 Chwefror 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) a (2) a 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, a pharagraffau 1, 2(4)(a), (e), (g), (i) a (j), 4(4) a (5) a 14(1) a (2) o Atodlen 2 iddi a pharagraffau 6(1) a (2) o Atodlen 3 iddi ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 26 Chwefror 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Rheoliadau 1993” yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993.
Diwygio Rheoliadau 1993
3 

(1) Mae Rheoliadau 1993 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a) Rhif wch y geiriad presennol yn baragraff (1),
(b) hepgorwch y diffiniad o “relevant valuation band”,
(c) ar ôl paragraff (1) mewnosodwch —“
(2) Any reference in these Regulations to the relevant valuation band in relation to a dwelling is a reference to the valuation band shown as applicable to the dwelling —
(a) in the billing authority’s valuation list; or
(b) if a new valuation list is due to come into force for the relevant year under section 22B(2)(b) or (3)(b) of the 1992 Act, as the case may be:
(i) except in a case to which paragraph (3) applies, in the list proposed to be compiled as the new list, “the proposed list”, by the listing officer and sent to the billing authority under section 22B(7) of the 1992 Act; or
(ii) in a case to which paragraph (3) applies, in information which for the purposes of this sub-paragraph is relevant information.
(3) This paragraph applies where the listing officer supplies the authority with information relating to property shown in the proposed list (including information relating to the application to such property of article 3 or 4 of the Council Tax (Chargeable Dwellings) Order 1992; and such information is relevant information for the purposes of paragraph (2) to the extent that it differs from information contained in the proposed list.”.
(3) Ar ôl paragraff 7(b) o Atodlen 1 mewnosodwch —“
(bb) section 13A of the 1992 Act;”.
(4) Ym mharagraff 15(b) o Atodlen 2 —
(a) ar ddiwedd is-baragraff (iv) hepgorwch “and”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (v) mewnosodwch “and”;
(c) ar ôl is-baragraff (v) mewnosodwch —“
(vi) a person may be eligible for a reduction under section 13A of the 1992 Act;”.
(5) Ym mharagraff 15(c)(i) o Atodlen 2 yn lle “subsection (2) or (3)” rhowch “subsection (3) or (4)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Chwefror 2004