
2004 Rhif 452 (Cy.43)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004
Wedi'u gwneud 24 Chwefror 2004
Yn dod i rym 25 Chwefror 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 12 a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anheddau yng Nghymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Rheoliadau 1998” yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998.
Diwygiadau i Reoliadau 1998
3 
Mae Rheoliadau 1998 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:
(1) Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “Class B”, mewnosodwch y canlynol —“
 “Class C” means the class of dwellings described in regulation 5A;”.
(2) Yn rheoliad 3 Rhif wch y geiriad presennol yn baragraff (1) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch —“
(2) Class C is prescribed as a class of dwellings for the purposes of section 12 of the Act for each financial year beginning on or after 1st April 2004.”.
(3) Ar ôl diwedd rheoliad 5 mewnosodwch y canlynol —“
Class C
5A. 
The class of dwellings described in this regulation (“Class C”) comprises every chargeable dwelling in Wales —
(a) which is unoccupied; and
(b) which is substantially unfurnished.”.
(4) Ym mharagraff 3 o'r Atodlen yn lle'r geiriau “section 168(8) to (10) and (12) of the Income and Corporation Taxes Act 1988” rhowch y geiriau “sections 67 and 69 of the Income Tax (Earnings and Pensions) Act 2003 in relation to the benefits code”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Chwefror 2004