
2004 Rhif 451 (Cy.42)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 24 Chwefror 2004
Yn dod i rym 25 Chwefror 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(7)(a), 44(4) a 113, o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at adran â Rhif yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)
2 
Mae'r rhannau o'r cyfrifiad sydd i'w wneud o dan adran 43(3) yn cael eu haddasu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y bydd paragraff (a)(i) yn cael effaith fel petai'n cynnwys, yn ychwanegol at y materion sydd eisoes wedi'u pennu ynddo, unrhyw daliadau refeniw heb eu clustnodi eraill a wneir i awdurdod heddlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn honno.
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth
3 
O ganlyniad i'r ddarpariaeth a wnaed gan reoliad 2 uchod, mae'r rhannau o'r cyfrifiad sydd i'w wneud o dan adran 44(1) yn cael eu haddasu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y bydd y diffiniad o “P” yn cael effaith fel petai'n cynnwys, yn ychwanegol at y materion sydd eisoes wedi'u pennu ynddo, unrhyw daliadau refeniw heb eu clustnodi eraill a wneir i awdurdod heddlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Chwefror 2004