
2004 Rhif 3238 (Cy.281) (C.144)
TIR, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 8 Rhagfyr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(3)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“y Ddeddf”), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i gŵynion am wrychoedd neu berthi yng Nghymru.
Y darpariaethau sydd i'w cychwyn
2 
Daw Rhan 8 o'r Ddeddf (Gwrychoedd neu Berthi Uchel) i rym ar 31 Rhagfyr 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Rhagfyr 2004