
2004 Rhif 317 (Cy.34)
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Rheoliadau Codi Rhwystrau oddi ar Briffyrdd (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 10 Chwefror 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 130A(8), 130B(6) a 130C(2) o Ddeddf Priffyrdd 1980, a phob pŵer arall sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Rhwystrau oddi ar Briffyrdd (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Priffyrdd 1980 ac mae cyfeiriad at “adran” yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf;
 ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ar ffurf a ragnodir gan y Rheoliadau hyn (neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi) ac mae cyfeiriad at ffurflen â Rhif yn gyfeiriad at ffurflen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Hysbysiadau a ragnodir
3 
Yr hysbysiad a ragnodir at ddibenion adran—
(a) 130A(1) yw Ffurflen 1;
(b) 130A(6)(a) yw Ffurflen 2;
(c) 130A(6)(b) yw Ffurflen 3;
(ch) 130C(1) yw Ffurflen 4; a
(d) 130B(6) yw Ffurflen 5.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Chwefror 2004
YR ATODLEN

FFURFLEN 1
FFURFLEN 2
FFURFLEN 3
FFURFLEN 4
FFURFLEN 5