
2004 Rhif 3093 (Cy.267)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 23 Tachwedd 2004
Yn dod i rym 24 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau
2 
Diwygir Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2001 fel a ganlyn —
(a) yn rheoliad 2(2)(a)(ii), ar y diwedd yn lle “a” rhodder “neu”;
(b) yn is-baragraff (9)(a) o reoliad 4 mewnosoder ar y dechrau —“
 yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2”;
(c) yn Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) yn unol â Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(ch) yn Atodlen 2 (Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly) yn unol â Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(d) yn Atodlen 3 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig) yn unol â Rhan 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2004
ATODLEN 1
Rheoliad 2
RHAN 1 Diwygiadau i Atodlen 1
1 
Yn Rhan B mewnosoder ar ôl paragraff 66:

Y Swyddogaeth Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol

67. 
Swyddogaethau mewn perthynas â sefydlu Pwyllgor Trwyddedu. Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17).
2 
Yn Rhan I:
(1) dileer paragraffau 18, 19; a
(2) mewnosoder ar ôl paragraff 17:

Swyddogaethau Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol

18. 
Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur. Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3).

19. 
Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi “priod swyddogion”). Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

20. 
Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff etc. Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

21. 
Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc. Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

22. 
Y ddyletswydd i benderfynu terfyn benthyca fforddadwy. Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22).

23. 
Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau. Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

24. 
Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol. Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11).
RHAN 2 Diwygiadau i Atodlen 2
Ar y diwedd, ychwaneger:“
22. 
Swyddogaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
(a) penderfynu swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(b) penderfynu swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(c) penderfynu swm y mae ei angen i benderfynu swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.
23. 
Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.”

RHAN 3 Diwygiadau i Atodlen 3
1 
Yng ngholofn (2) o'r paragraff ynglŷn â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol dileer “92” a mewnosoder “108”.
2 
Dileer y cofnod ynglŷn â'r Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd.
3 
Ar y diwedd, ychwaneger:

(1) Cynlluniau a Strategaethau (2) Cyfeirnod
Y pwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc. Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.