
2004 Rhif 2920 (Cy.259)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 9 Tachwedd 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8(1) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cartrefi gofal preswyl
2 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992, yn lle Dosbarth A rhodder—“
Class A

(a) a care home within the meaning of the Care Standards Act 2000, in respect of which a person is registered in accordance with Part 2 of that Act;
(b) a building or part of a building in which residential accommodation is provided under section 21 of the National Assistance Act 1948); or
(c) a hostel within the meaning given by paragraph 7 of Schedule 1 to the Act.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004